Mae dewis llety addas yn rhan mor bwysig o dy brofiad astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Rydyn ni’n falch o gynnig dau opsiwn ardderchog i’n myfyrwyr rhyngwladol: Homestay neu Breswylfa Myfyriwr. Mae pob opsiwn yn cynnig amgylchedd diogel, cyfforddus, a chefnogol, gan ddarparu ar gyfer gwahanol ddewisiadau ac anghenion.
Homestay
Mae Homestay yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyw gyda theulu lleol. Mae’r opsiwn hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr gael cipolwg go iawn ar fywyd Prydeinig a gwella eu Saesneg.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hystafell wely breifat eu hunain gyda lle storio, gofod astudio a Wi-Fi ac allwedd i’r tŷ. Darperir brecast a phrydau bwyd gyda’r hwyr bob dydd hefyd.
Mae ein teuluoedd Homestay yn cael eu dewis, eu fetio a’u monitro’n ofalus gan ein Tîm Rhyngwladol; gan ddilyn ein safonau diogelu uchel, mae pob aelod o’r teulu dros 18 oed wedi cwblhau gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Gallai’r teulu croesawu fod yn gwpl neu yn unigolyn, mae plant gan rai ohonyn nhw ac mae anifeiliaid anwes gan rai hefyd. Mae gan bob teulu croesawu broffil sy’n cynnwys manylion eu proffesiwn, aelodau o’r teulu, diddordebau a lleoliad y tŷ.
Mae llawer o’n teuluoedd croesawu yn brofiadol iawn ac wedi mwynhau rhannu eu cartrefi gyda myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn aml maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â’i gilydd am flynyddoedd lawer.
Ar ôl dilyn dy Raglen Sefydlu yn y Coleg, byddi di a dy deulu croesawu yn mynd trwy Ffurflen Gytundeb Homestay, gan nodi rolau a chyfrifoldebau’r teulu a’r Coleg, a dy rolau a chyfrifoldebau di a gaiff ei llofnodi gan bob parti. Mae’r cytundeb yn bwysig ac yn ddefnyddiol i bawb wrth i ti ymgartrefu yn dy amgylchedd newydd.
Preswylfa myfyriwr

Mae ein Preswylfa Myfyriwr, Tŷ Nicholaston, yn darparu profiad byw tawel ac mae staff ar y safle yn cynnig goruchwyliaeth a chymorth llawn. Wedi’i leoli yn amgylchoedd syfrdanol Penrhyn Gŵyr yn Abertawe, mae’n cynnig amgylchedd heddychlon ac ysbrydoledig i fyfyrwyr.
Mae myfyrwyr yn elwa ar ofal 24-awr gan ein Tîm Preswyl ymroddgar, mewn lleoliad cynnes a meithringar sy’n hyrwyddo cynhwysiant, twf personol, ac ymdeimlad o gymuned. Mae’r amgylchedd yn helpu pobl ifanc i fagu hyder a bod yn fwy annibynnol wrth fwynhau profiad llety cadarnhaol a chefnogol.
Mae gwasanaeth bws yn ystod yr wythnos yn darparu trafnidiaeth uniongyrchol a dibynadwy rhwng Tŷ Nicholaston a Choleg Gŵyr Abertawe. Ar y penwythnosau, gall myfyrwyr fanteisio ar wasanaethau trafnidiaeth arbennig i ganol y ddinas ac archfarchnadoedd lleol er hwylustod ychwanegol.
Bod yn deulu croesawu

Hoffech chi fod yn deulu croesawu? Rydyn ni bob amser yn chwilio am deuluoedd sydd â diddordeb mewn cynnig llety i fyfyrwyr ac sy’n gallu darparu amgylchedd cyfeillgar ac ymlaciol, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau Saesneg a rhoi cipolwg go iawn iddynt ar ddiwylliant a bywyd teuluol ym Mhrydain.