Uwch
Dîm
Arwain
Mae Uwch Dîm Arwain y Coleg (UDA) yn cyfarfod unwaith bob mis i drafod datblygiadau mewnol ac allanol er mwyn pennu dull strategol ar gyfer y Coleg. Y Pennaeth sy’n cadeirio’r cyfarfodydd ac mae’n dwyn ynghyd uwch arweinwyr allweddol ledled y Coleg.
Prif Swyddog Gweithredol a Phennaeth

Mark Jones
Prif Swyddog Gweithredol
Mark Jones, ein Prif Swyddog Gweithredol (PSG) sy’n bennaf gyfrifol am bob agwedd ar Goleg Gŵyr Abertawe, o gyllid, prosiectau cyfalaf a phartneriaethau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a Medr.
Mae Mark yn Gyfrifydd Siartredig cymwys ac mae ganddo radd mewn Rheoli ac Arwain Addysgol ac mae ganddo 20 mlynedd o brofiad o weithio mewn rôl Pennaeth gyda Cholegau Addysg Bellach yn Ne Cymru. Yn 2024 fe dderbyniodd MBE yn Rhestr Anrhydeddau’r Brenin am ei gyfraniad at addysg.
Yn ei amser hamdden mae Mark yn hoffi treulio amser gyda’i deulu, teithio, chwaraeon, mynd i’r theatr a darllen.

Kelly Fountain
Pennaeth
AYn ei rôl fel Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, mae Kelly yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol i sicrhau llwyddiant academaidd, gwelliant parhaus a lefelau uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr.
Mae’n goruchwylio ystadau’r Coleg gan sicrhau diwylliant sy’n hybu lles staff a myfyrwyr. Yn ogystal â hyn, hi’n sy’n bennaf gyfrifol am ddatblygu a gweithredu cynllun strategol y Coleg. Mae ganddi brofiad blaenorol o weithio yn y sector arweinyddiaeth strategol ac mae hi wedi gweithio mewn rolau ym meysydd gwasanaethau academaidd, cynllunio cwricwlw, a chymorth myfyrwyr. Mae hi hefyd yn dirprwyo i’r PSG.
Mae ei chyflawniadau nodedig yn cynnwys ysgogi newid trawsnewidiol, sicrhau ystod o gymeradwyaethau ym maes sicrhau ansawdd, arwain proses rheoli argyfwng lwyddiannus yn ystod y pandemig ac yn ystod cyfnod o ansefydlogrwydd o ran seiberddiogelwch ac mae hi wedi cynrychioli’r Coleg mewn fforymau allweddol.
Mae h’n angerddol am ddysgu gydol oes, treulio amser gyda’i theulu ac archwilio natur yn yr awyr agored.
Dirprwy Benaethiaid

James Donaldson
Dirprwy Bennaeth Profiad y Dysgwr a Chynhwysiant
Mae James yn goruchwylio cyfeiriad strategol gwasanaethau cymorth allweddol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe megis anghenion dysgu ychwanegol, diogelwch, ffreuturiau, llyfrgelloedd, canolfannau chwaraeon a marchnata.
Gyda phrofiad ym maes y gyfraith ac ar ôl sicrhau gradd Anrhydedd mewn Hanes gyda Phrifysgol Caerdydd, gweithiodd fel cyfreithiwr cyn symud i fyd addysg bellach. Dros y 12 mlynedd diwethaf mae James wedi sicrhau enw da am wella profiad myfyrwyr trwy gynnig arweinyddiaeth ar draws meysydd ADY, gwasanaethau dysgwyr, diogelu a thrawsnewid digidol.
Fel Arolygydd Cyfoedion Estyn a siaradwr gwadd, mae James yn angerddol am addysg gynhwysol ac arloesedd. Mae ei waith wedi arwain at nifer o wobrau cenedlaethol gan gynnwys Gwobr AU TES ar gyfer Cymorth Dysgu a Gwobr NASEN ar gyfer darpariaeth 16 gorau’r DU.
Yn ei amser hamdden mae e’n hyfforddi tîm pêl-droed ei ferch, yn gwasanaethu fel llywodraethwr ac ymddiriedolwr ysgol ac yn mwynhau casglu recordiau finyl a gwylio pêl-droed a rygbi.

Mike Glover
Dirprwy Bennaeth Cyllid a MIS
Mae Mike yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer yr adrannau canlynol: Cyllid, Cyllid Allanol, Systemau Rheoli Gwybodaeth (MIS) ac Arholiadau. Gan ffocysu’n bennaf ar gynaliadwyedd a thwf ariannol, mae Mike yn chwarae rhan allweddol wrth reoli cyllid y Coleg a sicrhau buddsoddiad cyfalaf i hwyluso’r broses o ehangu a chyflawni gwelliant parhaus mewn perthynas ag ystâd y Coleg.
Mae'n cadeirio sawl grŵp strategol allweddol o fewn y Coleg, gan gynnwys y Pwyllgor Rheoli Risg, Pwyllgor Diogelwch Gwybodaeth a'r Grŵp Cynaliadwyedd, ac mae’n sicrhau dull cadarn o ran llywodraethu, gan ddiogelu data a mynd i’r afael â’i gyfrifoldebau amgylcheddol.
Mae Mike yn Gyfrifydd Siartredig ac mae ganddo dros ddegawd o brofiad yn y sector archwilio a chyfrifeg. Cyn ymuno â’r Coleg yn 2005, bu’n gweithio i gwmni blaenllaw o’r enw PwC. Mae ei brofiad proffesiynol yn sylfaen gadarn ar gyfer y gwaith y mae e’n ei gyflawni mewn perthynas â hybu rhagoriaeth ariannol a datblygiad strategol.
Y tu allan i’r gwaith, mae Mike yn athletwr brwd. Mae’n hoffi rhedeg, cymryd rhan mewn cystadlaethau triathlon a chwarae pickleball.

Paul Kift
Dirprwy Bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau
Paul yw’r arweinydd gweithredol ar gyfer amrywiaeth o feysydd trawsgolegol gan gynnwys Dysgu Seiliedig ar Waith, Hyfforddiant GCS (cangen hyfforddiant masnachol y Coleg), Ymgysylltu â Chyflogwyr, Ysgol Fusnes Plas Sgeti, Rhyngwladol, y Ganolfan Ynni a TG a Gweledigaeth Ddigidol.
Datblygodd Paul ei brofiad arweinyddiaeth trwy rolau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, lle arferai weithio i Capital Law a Choleg Caerdydd a’r Fro, gan helpu i lywio twf ariannol a gwella canlyniadau ansawdd. Mae’r gwaith hwn wedi parhau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
Mae cyflawniadau nodedig yn cynnwys ennill gwobrau cenedlaethol amryfal yn y Coleg, gan gynnwys dwy Wobr ‘Beacon’ Cymdeithas y Colegau o fewn ei gyfarwyddiaeth.
Y tu allan i’r gwaith, mae’n mwynhau gwylio ei fab yn chwarae pêl-droed, a theithio.

Sarah King
Dirprwy Bennaeth Pobl a Lles
Sarah yw ein harweinydd strategaethau AD, lles a chydraddoldeb ac mae hi'n gyfrifol am alinio'r meysydd hyn a’n hamcanion strategol. Mae hi'n cadeirio'r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a'r Tîm Safonau Iechyd Corfforaethol, gan weithio’n agos ag undebau llafur a'r grŵp partneriaeth gymdeithasol leol.
Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg bellach ac mae’n meddu ar Dystysgrif Ôl-raddedig Lefel 7 mewn Personél a Datblygu (CIPD) o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr AD yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr a Chynghorydd Cysylltiadau Gweithwyr yng Ngholeg Abertawe.
Mae Sarah wedi arwain menter y Coleg ar gyfer y menopos. Cafodd y fenter hon ei chydnabod yng Ngwobrau CIPD 2023 a'i chanmol gan ffigurau cenedlaethol. Yn 2024 cafodd gyfle i gyflwyno yn Grŵp Bord Gron Menopos cyntaf Cymru ac yn Stryd Downing ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae Sarah wedi derbyn nifer o ganmoliaethau, gan gynnwys Cyfarwyddwr AD a Seren AD y Flwyddyn yng ngwobrau AD Cymru (2018-2022) a theitl Arweinydd Pobl y Flwyddyn yng Ngwobrau Inside Out. Yn yr un flwyddyn enwyd Coleg Gŵyr Abertawe yn Sefydliad Gorau'r Sector Cyhoeddus.
Mae hi’n mwynhau cefnogi mentrau lles ac yn ei hamser hamdden mae hi’n hoff o gerdded ei chi.

Nikki Neale
Dirprwy Bennaeth Chwricwlwm, Ansawdd, Addysgu a Dysgu
Nikki yw ein harweinydd cwricwlwm, ansawdd, addysgu a dysgu ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth lywio cyfeiriad academaidd y Coleg, gan sicrhau rhagoriaeth mewn perthynas â phob agwedd ar gynllunio a chyflwyno’r cwricwlwm. Hi yw’r arweinydd o ran datblygu cwricwla’r dyfodol ac mae hi’n hyrwyddo safonau uchel mewn addysgu, dysgu ac ansawdd ledled y Coleg.
Yn ogystal â hyn, mae Nikki yn gyfrifol am oruchwylio’r rhaglenni addysg uwch, partneriaethau ysgolion a hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae hi hefyd yn gweithredu fel arweinydd y ddarpariaeth addysg gymunedol i oedolion, gan ddarparu cyfeiriad strategol at ddibenion sicrhau cyfleoedd cynhwysol ac effeithiol ar draws y rhanbarth.
Mae hi’n cynrychioli’r Coleg yn allanol fel Cyfarwyddwr ar fwrdd Novus Gŵyr ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r ddarpariaeth addysg yng Ngharchar Parc. Yn ei hamser hamdden mae Nikki yn hoffi teithio, blasu bwydydd newydd a cherdded.
Uwch Arweinwyr

Jenny Durcan
Cyfarwyddwr ystadau
Jenny yw Cyfarwyddwr Ystadau'r Coleg ac mae ganddi brofiad o weithio mewn sawl sector, gan gynnwys rolau fel rheolwr stiwdio a pheiriannydd sain i artistiaid o The Who i 808 State.
Hi yw rheolwr yn Urban Splash ac fe chwaraeodd ran allweddol mewn prosiect adfywio rhanbarthol ym Manceinion a Lerpwl, gan ddarparu atebion eiddo ar gyfer y diwydiannau creadigol a thechnoleg.
Hefyd, mae gan Jenny brofiad o weithio fel syrfëwr, gan oruchwylio portffolios amrywiol ar draws Gogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae hi wedi ymgynghori ar gyfer sawl cyngor ar brosiectau adfywio, gan gynnwys Maes Awyr Manceinion a Glannau Kings Dock. Fel Rheolwr Rhanbarthol i'r BBC, roedd hi’n gyfrifol am reoli cyfleusterau a'r broses gaffael ar gyfer MediaCityUK, canolfan gyfryngau a thechnoleg arobryn yn Salford.

Lucy Hartnoll
Deon y Gyfadran
Lucy yw arweinydd strategol y Coleg ar gyfer meysydd dysgu mathemateg, gwyddoniaeth, gwyddorau cymdeithasol, busnes a thechnoleg, celfyddydau creadigol a'r dyniaethau, celfyddydau gweledol, ABE ac ESOL. Hi sydd hefyd yn gyfrifol am Gampws Gorseinon.
Mae ganddi radd Dosbarth Cyntaf mewn Seicoleg ac mae hi ar hyn o bryd yn astudio MSc mewn Seicoleg a Llesiant. Mae gan Lucy dros 20 mlynedd o brofiad yn yr ystafell ddosbarth ynghyd â phrofiad o arwain meysydd dysgu amrywiol, gan gynnwys y celfyddydau creadigol a'r dyniaethau a gwallt a harddwch. Dyluniodd Academi Addysgu Coleg Gŵyr Abertawe ac fe arweiniodd ddarpariaeth Safon Uwch lwyddiannus, gan gyd-greu dau werslyfr Seicoleg.
Fel Prif Arholwr Seicoleg gyda CBAC, mae Lucy wedi cyfrannu at ddatblygu adnoddau addysgu.
Y tu allan i'r gwaith, mae hi'n mwynhau darllen, hyfforddi cryfder, rhedeg a chefnogi tîm pêl-droed ei mab.

Jenny Hill
Cyfarwyddwr Datblygu Sgiliau a Phartneriaethau Ysgolion
Jenny yw arweinydd y Coleg ar gyfer datblygiad strategol sgiliau dysgwyr, ac mae hi’n gyfrifol am sicrhau bod dysgwyr ar draws addysg amser llawn, addysg uwch, a dysgu seiliedig ar waith yn ennill y sgiliau llythrennedd, rhifedd, digidol, a chyflogadwyedd sydd eu hangen i sicrhau llwyddiant. Mae hi hefyd yn goruchwylio partneriaethau ag ysgolion rhanbarthol, gan gefnogi pobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus o ran addysg a gyrfa.
Mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn y sector AB ac mae wedi gweithio mewn nifer o rolau arwain, gan gynnwys Rheolwr Maes Dysgu ar gyfer y Celfyddydau Creadigol a'r Dyniaethau. Mae hi'n gyn-arholwr uwch gyda CBAC ac mae hi hefyd wedi arwain hyfforddiant proffesiynol ledled Cymru yn ogystal â chreu dau werslyfr Seicoleg craidd.
Mae hi'n angerddol am ymgysylltu â'r gymuned a gwirfoddoli gyda grwpiau difreintiedig. Mae hi’n mwynhau teithio, chwaraeon a heriau newydd.

Cath Jenkins
Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd
Mae gan Cath dros 25 mlynedd o brofiad ym maes cyflogadwyedd a sgiliau ac mae hi’n gyfrifol am arwain cyfeiriad strategol a rhaglenni sy'n helpu unigolion i sicrhau cyflogaeth newydd neu well. Mae hi wedi gweithio yn y sectorau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector, gan gynnwys rolau uwch yn y gwasanaeth sifil yn llunio polisi a strategaethau cenedlaethol.
Datblygodd rhaglen gyflogadwyedd glodfawr y Coleg, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, sydd wedi trawsnewid bywydau unigolion yn y gymuned leol.
Yn ei hamser hamdden, mae hi'n mwynhau cerdded, gwylio chwaraeon, a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.

Rachel Jones
Cyfarwyddwr Dysgu'n Seiliedig ar Waith
Gwybodaeth ar y ffordd yn fuan

Kieran Keogh
Cyfarwyddwr Ansawdd
Fel rhan o’i rôl bresennol, mae Kieran yn cydweithio â'r tîm Ansawdd ac uwch arweinwyr i hybu gwelliant parhaus mewn addysgu a dysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Mae’n meddu ar radd MA mewn Addysg, TAR a gradd mewn rheolaeth.
Mae ganddo brofiad o weithio fel Arweinydd Campws ar gyfer Llwyn y Bryn ac mae wedi dyblu’r nifer o garfanau amser llawn. Mae Kieran hefyd wedi cyflawni cyfraddau llwyddiant rhagorol, gyda dysgwyr yn ennill canmoliaeth mewn cystadlaethau cenedlaethol. Arweiniodd y broses ar gyfer recriwtio myfyrwyr rhyngwladol gan sicrhau contractau masnachol o’r radd flaenaf.
Mae'n un o Arolygwyr Cyfoedion Estyn ac yn Gyd-gadeirydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Cymru ac mae'n cyfrannu at fentrau dysgu gydol oes genedlaethol.
Yn ei amser hamdden mae Kieran yn hoff iawn o wylio chwaraeon, yn enwedig hyrlio (hurling) ac yn mwynhau hyfforddi ei blant.

Simon Palmer
Cyfarwyddwr TG a Gweledigaeth Ddigidol
Mae Simon yn cyfarwyddo timau atebion digidol, seilwaith a chymorth TG, gan reoli gwasanaethau a systemau'r Coleg. O adeiladu cyfrifiaduron personol a gosod rhwydwaith yn 15 oed i astudio cyfrifiadura Safon Uwch a chwblhau hyfforddiant Cisco CCNA, mae ei ddull ymarferol a chwilfrydig yn werthfawr tu hwnt.
Bu’n gweithio fel swyddog profiad masnachol i Mertec a Virgin Media, ac yna treuliodd 21 mlynedd yng Ngholeg Sir Gâr. Mae’n cadeirio grŵp Rheolwyr Systemau TG AB Cymru, wedi siarad mewn digwyddiadau yn y DU ac yn rhyngwladol, ynghyd â bod yn aelod o PSIADA Llywodraeth Cymru.
Yn ei amser hamdden, mae Simon yn angerddol am DIY, peirianneg, beicio, ceir, ynni gwyrdd, ac atebion technoleg ffynhonnell agored.

Marie Szymonski
Cyfarwyddwr Marchnata, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Mae Marie Szymonski yn arweinydd marchnata arobryn ac mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg bellach ac uwch, y sector cyhoeddus a sefydliadau diwylliannol eraill.
Fel Cyfarwyddwr Marchnata, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, mae hi'n arwain ymgyrchoedd strategol sy'n hybu cyfraddau recriwtio, gan wella ymhellach enw da’r coleg. Mae hi'n arwain timau Derbyn ac Ystafell Argraffu'r Coleg, gan sicrhau cydlyniad rhwng darpariaeth weithredol a strategaeth yr adran marchnata.
Mae Marie wedi gweithio mewn rolau uwch gyda sefydliadau megis Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Heddlu De Cymru, ac mae ganddi amrywiaeth eang o brofiad traws-sector a phrofiad o ymgysylltu â rhanddeiliaid, cysylltiadau â'r cyfryngau, profiad o ddatblygu brand a mynychu cynadleddau marchnata.
Yn ei hamser hamdden mae Marie yn fam brysur ac yn angerddol am ei lles a chadw’n heini.

Cath Williams
Deon y Gyfadran
Fel Deon y Gyfadran yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae Cath yn arwain ystod eang o feysydd cwricwlwm galwedigaethol ar draws campysau Tycoch, Llys Jiwbilî a Gorseinon. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys iechyd a gofal, peirianneg, lletygarwch, gwallt a harddwch. Mae hi hefyd yn cefnogi dysgwyr llawn amser, rhan amser, dysgu seiliedig ar waith ac addysg uwch. Yn ogystal â hyn, mae Cath yn gwasanaethu fel arweinydd Campws Tycoch, gan reoli gweithrediadau strategol.
Ar ddechrau ei gyrfa gweithiodd Cath ym maes addysg gynradd cyn symud i addysg bellach, lle bu’n ddarlithydd, gwiriwr, mentor, ac yn uwch arweinydd. Mae hi’n Arolygydd Cyfoedion Estyn ymroddedig ac mae hi’n angerddol am godi safonau addysgol. Mae hi wedi helpu’r Coleg i gyflawni statws Coleg Noddfa, gan sicrhau cydnabyddiaeth Canolfan Ragoriaeth gyda UK Skills.
Yn ei hamser hamdden mae hi’n hoffi cerdded ei chi, darllen, coginio a gwneud ioga.