HSE Ymchwilio i Ddigwyddiad - Cyflwyniad (NEBOSH), Cymhwyster Lefel 3
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas i’r rhai sydd am gynnal ymchwiliadau effeithiol i ddigwyddiadau.
Bydd cyflogwyr, goruchwylwyr, hyrwyddwyr diogelwch, iechyd ac amgylchedd, cynrychiolwyr undeb a diogelwch yn elwa ar y cwrs, gan roi modd i chi:
- Ymchwilio i ddigwyddiadau syml yn annibynnol
- Casglu tystiolaeth gan gynnwys cynnal cyfweliadau â thystion
- Llunio cynllun gweithredu i atal digwyddiad rhag digwydd eto
- Cyfrannu at ymchwiliadau tîm ar gyfer digwyddiadau ar raddfa fawr
- Effeithio’n gadarnhaol ar y diwylliant diogelwch yn eich sefydliad.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn, ond argymhellir bod dysgwyr yn meddu ar wybodaeth sylfaenol o faterion iechyd a diogelwch, a bydd llawer yn meddu ar gymhwyster NEBOSH arall.
Addysgir y cwrs mewn diwrnod, a bydd yr asesiad yn cael ei gynnal yn yr ystafell ddosbarth a fydd yn cynnwys papur asesu ysgrifenedig.
Testunau sy’n cael eu hastudio:
- Dadleuon moesol, cyfreithiol ac ariannol dros ymchwiliadau
- Ffactorau dynol a sefydliadol a all gyfrannu at ddigwyddiad
- Y broses ar gyfer ymchwilio i ddigwyddiadau
- Strategaethau cyfweld cadarnhaol a’r rhwystrau i gyfweliadau llwyddiannus.
Buddion i gyflogwyr
- Atal digwyddiadau rhag digwydd eto
- Dull cadarn o gynnal ymchwiliadau
- Gwell diwylliant diogelwch trwy annog dull rhagweithiol o ymchwilio i ddigwyddiadau
- Cynyddu arbenigedd y cwmni
- Dull o ymchilio i ddigwyddiadau sy’n adlewyrchu arferion gorau