Ailasesiad Nwy Domestig Lefel 3 ACS – Cwrs
Trosolwg
Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer peirianwyr Diogelwch Nwy presennol sy’n dymuno ailsefyll eu cymwysterau.
Rhaid ymgymryd â’r adnewyddiad hwn bob pum mlynedd, ac os na chaiff ei gwblhau byddwch yn cael eich tynnu oddiw ar y gofrestr Diogelwch Nwy.
Dyma’r categorïau sydd ar gael i’w hadnewyddu:
- CCN1
- CENWAT
- CKR1
- HTR1
- MET1
Gwybodaeth allweddol
Bydd gan darpar ymgeiswyr dystysgrif ACS ar gyfer y categorïau y maent yn dymuno eu hadnewyddu.
Gellir ymgymryd â’r asesiad hyd at chwe mis cyn y dyddiad cau ar y dystysgrif, a pharhau i gadw at y dyddiad gwreiddiol.
Os bydd mwy na 12 mis wedi mynd heibio ar ôl y dyddiad, bydd angen i'r ymgeisydd ailsefyll yr asesiad ACS cychwynnol.
Gall ymgeiswyr benderfynu a ydynt am ymgymryd â’r asesiad yn unig (2 ddiwrnod) neu gwblhau diwrnod ychwanegol o hyfforddiant dewisol.
Dyma gyfle i ymgeiswyr uwchsgilio mewn meysydd eraill o'r diwydiant nwy gan sicrhau ardysiatau nad ydynt wedi eu cyflawni ar hyn o bryd. Gallai hyn gynnwys cymwysterau LPG a Nwy Masnachol.
Mae meddu ar gymwysterau ACS yn rhoi cyfle i drosglwyddo sgiliau i'r diwydiant olew OFTEC.
Ailasesiad ACS £750
Cyfleoedd ariannu ar gael yn dibynnu ar ddiwallu’r meini prawf.
PLA: Am ddim os ydych chi'n ennill llai na'r cap cyflog (cysylltwch am fanylion)
Sgiliau a Thalent: £75 fesul categori. Enghraifft CCN1 a CENWAT £150