Gwau i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd
Trosolwg
Mae gwau yn grefft ymlaciol a buddiol sy’n agor cyfleoedd di-ri i greu eitemau hardd, wedi’u gwneud â llaw i chi’ch hun ac eraill.
Ar y cwrs 10 wythnos hwn, byddwch yn dysgu sut i wau â llaw, gan gynnwys sut i godi pwythau gan ddefnyddio gweill, sut i wau pwythau plaen a phwythau o chwith, sut i gynyddu a lleihau pwythau i siapio’ch eitem gwau a sut i gau pwythau.
Bydd y gwëwr mwy profiadol yn dysgu amrywiaeth o dechnegau gwau i gynhyrchu effeithiau cebl, les a lliw.
Byddwch yn dysgu am dalfyriadau, sut i ddilyn patrwm gwau, sut i greu sgwâr tensiwn a sut i baru pwysau edafedd â meintiau gweill.
Cewch gyfle i greu set o samplau a llyfr gwaith i'w storio ynddo a’i gadw fel atgoffa parhaol i’ch cynorthwyo i weithio’n annibynnol yn y dyfodol.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cynhelir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.
Darperir yr holl offer.