Gosodiadau Trydanol (Diploma L2)
Trosolwg
Course Overview
Bydd y cwrs blwyddyn hwn yn rhoi modd i chi ddatblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector gosodiadau trydanol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Gosodiadau trydanol, gwifro a therfyniadau
- Technoleg gosodiadau trydanol
- Egwyddorion gwyddor drydanol
- Iechyd a diogelwch
- Cyfathrebu o fewn y diwydiant.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gwybodaeth allweddol
Mae strwythur y cymhwyster hwn yn gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol. Caiff y ddau eu hasesu drwy aseiniadau ysgrifenedig ac ymarferol ac arholiadau dewis lluosog ar-lein.
Gosodiadau Trydanol neu Beirianneg (Diploma Lefel 3) neu Brentisiaeth Gosodiadau Trydanol.
Mae dillad amddiffynnol personol (esgidiau ac oferôls) a phecyn offer Gosodiadau Trydanol sylfaenol yn hanfodol.