Gwneud Printiau
Trosolwg
Mae gwneud printiau yn broses artistig sy’n cynnwys trosglwyddo delweddau o un arwyneb, fel plât, bloc, neu sgrin, i arwyneb arall, sef papur neu ffabrig yn fwyaf cyffredin.
Mae’r cwrs gwneud printiau hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mawr mewn celf, o ddechreuwyr i greadigwyr profiadol. Cewch gyfle i ddatblygu a chanolbwyntio ar dechnegau gwneud printiau traddodiadol a chyfoes gyda chymorth gan diwtor profiadol a’r defnydd o stiwdio gwneud printiau arbenigol.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn arbrofi ag ystod eang o brosesau gwneud printiau. Mae pob tymor yn cyflwyno dulliau a deunyddiau newydd, gan ganiatáu i chi feithrin sgiliau’n raddol a mynegi eich creadigrwydd eich hun.
Tymor un
- Sesiwn groeso a throsolwg cynhwysfawr o iechyd, diogelwch ac arferion gorau yn y stiwdio printio
- Monoprintio plât Gelli
- Monoprintio lluniadu unigyrchol
- Colagraffau
- Printio â sgrin sidan gyda stensiliau papur
- Monoprintio â sgrin sidan gyda llifynnau procion.
Tymor dau
- Sesiwn groeso a throsolwg cynhwysfawr o iechyd, diogelwch ac arferion gorau yn y stiwdio printio
- Gwneud printiau Styrofoam
- Torri leino
- Torri pren
- Dylunio patrwm ailadroddol.
Tymor tri
- Sesiwn groeso a throsolwg cynhwysfawr o iechyd, diogelwch ac arferion gorau yn y stiwdio printio
- Ysgythru sychbwynt
- Gwneud marciau arbrofol ar gyfer amlygiad sgrin sidan
- Creu gludwaith ar gyfer amlygiad sgrin sidan
- Cyflwyniad i ddeunyddiau sgrin-brintio arbenigol – ffloc, ffoiliau, rhwymwr pwff a phastiau llifyn naturiol.
Gwybodaeth allweddol
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai dysgwyr yn ei chael yn fuddiol mynychu pob tymor i feithrin sgiliau wrth baratoi ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nad yw hyn yn rhwystr i fynychu pob tymor fel cwrs annibynnol.
Addysgir y cwrs hwn yn y stiwdios celf a dylunio ar Gampws Llwyn y Bryn yn Uplands, Abertawe.
I ennill eich cymhwyster, byddwch yn cwblhau llyfryn ymarferol o ganlyniadau drwy gydol y cwrs, a fydd wedyn yn cael eu hasesu.
Mae pob tymor yn para 10 wythnos. Byddwch yn ei chael hi’n fuddiol mynychu tymhorau olynol i ddatblygu eich sgiliau’n raddol, ond mae croeso i chi ymuno unrhyw dymor fel cwrs annibynnol cyflawn.
Darperir yr holl ddeunyddiau. Mae ffi stiwdio o £30 yn daladwy ar gyfer pob tymor o 10 wythnos.
Gellir casglu’r holl waith ar ôl cwblhau’r llyfryn.