Hwyluso Rheolaeth Prosiect
Trosolwg
Darganfyddwch sut mae rheolaeth prosiect yn berthnasol i fywyd pob dydd a gwaith ar raddfa ehangach. Mae’r sesiwn ymarferol hon yn archwilio pum cam prosiect a saith egwyddor PRINCE2, math o fethodoleg rheoli prosiect.
Dysgwch sut i gynllunio, cwmpasu, gweithredu, rheoli a chau prosiectau gan roi sylw i ansawdd, amser a’r gyllideb. Byddwn ni hefyd yn edrych ar sut i ddelio â heriau annisgwyl.
Erbyn y diwedd, byddwch yn adnabod eich sgiliau rheoli prosiect eich hun a gwybod sut i’w defnyddio yn fwy effeithiol.
Gwnewch gais am y cwrs hwn trwy lenwi ffurflen gais y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Gwybodaeth allweddol
Dim gofynion mynediad, dim ond awydd i ddysgu mwy ac uwchsgilio o fewn eich rôl bresennol.
Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth a grwpiau trafod gan archwilio pynciau perthnasol i herio’ch hun.
Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i brentisiaeth neu rai o’n cyrsiau modiwlaidd eraill.
Byddai dod â gliniadur yn fuddiol ond nid yw’n ofynnol.