Rhaglen Ddysgu Rheoli Nwy ERS Lefel 3 – Cwrs
Trosolwg
Mae'r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer darpar ddysgwyr posibl sydd am weithio ym maes Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Gwresogi Nwy Naturiol Domestig.
Does dim angen i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth flaenorol am systemau Gwresogi nwy, ond gan fod y cwrs yn archwilio’r meysydd isod yn fanwl, awgrymir i bob ymgeisydd wneud rhywfaint o ymchwil ymlaen llaw.
- Deddfwriaethau
- Gosod Pibellau
- Profi Tyndra
- Mesuryddion a Gosodiadau Mesurydd
- Cyfraddau Nwy a Phwysau Llosgwyr
- Hylosgi
- Ffliwiau ac Awyru
- Gweithdrefnau ar gyfer Sefyllfaoedd Anniogel
- Rheolyddion a Dyfeisiau Nwy
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, bydd ymgwiswyr yn diwallu gofynion mynediad ein cwrs ACS Cychwynnol.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i gofrestru ar y cwrs, ond bydd y cyfweliad yn cwmpasu'r holl waith sy'n ofynnol drwy gydol y cwrs er mwyn asesu addasrwydd yr ymgeisydd.
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu trefnu profiad gwaith priodol. Rhaid i'r unigolyn sy'n darparu'r profiad gwaith fod yn aelod o'r Gofrestr Diogelwch Nwy.
Darperir y cwrs drwy gyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb mewn dosbarthiadau a chymorth un-i-un.
Mae'n ofynnol i ddysgwyr gynhyrchu portffolio o dystiolaeth i ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u cymhwysedd ymarferol.
Bydd hyd yr addysgu yn yr ystafell ddosbarth yn amrywio - yn dibynnu ar brofiad y myfyriwr yn y diwydiant. (Bydd hyn yn cael ei drafod yn ystod y cyfweliad).
Bydd angen i ddysgwyr gwblhau nifer o asesiadau seiliedig ar theori yn yr ystafell ddosbarth ynghyd â gweithgareddau ymarferol ar destunau fel:
- Pibellau gosod nwy
- Hylosgi
- Profi a glanhau pibellau
- Gosod, gwasanaethu ac atgyweirio boeleri nwy
- Gweithdrefnau profi a chomisiynu
- Gofynion awyru offer
- Rheolyddion nwy
- Sefyllfaoedd anniogel
Bydd cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn sicrhau mynediad at Asesiad Nwy Cychwynnol ACS yn y Ganolfan Ynni.
Ar ôl cwblhau'r asesiad ACS yn llwyddiannus, bydd cyfle gan ddysgwyr i gofrestru gyda Gas Safe, a fydd yn caniatáu iddynt weithio o fewn y diwydiant nwy.
Yna, gall dysgwyr wneud cais am rolau peiriannydd nwy o fewn cwmnïau lleol neu gofrestru fel unigolion hunangyflogedig a sefydlu eu busnes eu hunain.
Gall dysgwyr hefyd symud ymlaen i astudio cyrsiau mewn OFTEC a gweithio yn y diwydiant olew.
Yn ogystal, bydd dysgwyr yn cael cyfle uwchsgilio yn y sector ynni adnewyddadwy a chwblhau hyfforddiant mewn Pympiau Gwres a Solar Thermol.
Mae'r Rhaglen Dysgu Rheoli Nwy yn costio £3,000 ond mae cyllid ar gael i leihau'r gost hon i £1,500 (yn amodol ar gymhwysedd). Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Ar ôl cwblhau'r Rhaglen Dysgu Rheoli Nwy, bydd angen talu cost ychwanegol ar gyfer Asesiad Nwy ACS Cychwynnol.
Ffi o £750 (mae’n bosib y bydd cyllid ar gael, gwiriwch wrth wneud cais).
18 wythnos i 12 mis o waith portffolio ar safle yn ogystal â 20-25 diwrnod o hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth.