Serameg
Trosolwg
Serameg yw’r grefft o siapio clai yn wrthrychau fel powlenni, mygiau a cherfluniau. Gan ddefnyddio technegau fel adeiladu â llaw, addurno, a thanio odyn, byddwch yn troi clai meddal yn ddarnau gorffenedig sy’n gallu gwrthsefyll prawf amser.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi pwyslais cryf ar brosesau traddodiadol, gan gynnig sylfaen mewn arferion serameg sydd wedi cael eu defnyddio am ganrifoedd.
Yn ddelfrydol i ddechreuwyr ac artistiaid seramig profiadol. Mae’n wych i’r rhai sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau seramig ymarferol, archwilio mynegiant creadigol trwy glai, neu adeiladu ar brofiad seramig blaenorol mewn amgylchedd ymarferol, cefnogol.
Byddwch yn archwilio technegau adeiladu craidd megis adeiladu â llaw, castin slip, a thaflu ar olwyn y crochenydd. Ochr yn ochr â’r dulliau hyn, byddwch yn arbrofi ag addurno arwyneb a gwydro – o orffeniadau clasurol i arddulliau mwy arbrofol, cyfoes. Bydd technegau tanio hefyd yn cael eu cyflwyno fel y gallwch danio’ch darnau seramig a mynd â nhw adref gyda chi.
Yr hyn byddwch chi’n ei ddysgu:
- Dulliau adeiladu â llaw allweddol, gan gynnwys torchi, pinsio, ac adeiladu slab
- Cyflwyniad i gastin slip a gweithio gyda mowldiau plastr
- Hanfodion taflu ar olwyn ar gyfer ffurfio llestri cymesur
- Technegau gwydro ac addurno traddodiadol a modern
- Prosesau tanio ac hanfodion gweithredu odyn.