Gwniadwaith: Hanfodion i Greu Dillad
Trosolwg
Ydych chi erioed wedi breuddwydio am greu eich dillad chwaethus eich hun neu berffeithio ffit eich dillad? P’un a ydych chi’n ddechreuwr pur neu’n gobeithio mireinio’ch sgiliau, bydd y cwrs hwn yn eich tywys trwy fyd cyffrous gwneud dillad, o feistroli peiriant gwnïo i ddylunio a gwneud dillad wedi’u teilwra i chi.
Gydag arweiniad arbenigol mewn amgylchedd stiwdio cefnogol a chreadigol, byddwch chi’n magu hyder wrth wnïo, creu dillad a thorri patrymau, ar draws tri thymor:
Tymor un
Yn berffaith i’r rhai sy’n newydd i wnïo, mae’r tymor hwn yn eich cyflwyno i ddefnyddio peiriant gwnïo domestig a pheiriant ‘overlocker’. Byddwch chi’n ennill sgiliau datrys problemau hanfodol ac yn creu eitem syml wedi’i gwnïo, fel bag cario chwaethus, er mwyn ymarfer technegau gwnïo sylfaenol.
Tymor dau
Gan adeiladu ar y pethau sylfaenol, byddwch chi’n gweithio gyda phatrwm gwnïo masnachol o’ch dewis i greu dilledyn. Byddwch chi’n archwilio technegau dewis ffabrig, gwnïo, hemio, a gorffen dillad, gan ddatblygu sgiliau yn hyderus i ddod â phatrwm gwnïo yn fyw.
Bydd angen rhywfaint o brofiad blaenorol o ddefnyddio peiriant gwnïo. Mae cwblhau tymor un yn fuddiol.
Tymor tri
Yn y cam olaf hwn, byddwch yn camu i fyd torri patrymau, gan ddysgu sut i ddrafftio’ch patrymau gwnïo eich hun yn seiliedig ar eich mesuriadau unigryw. Byddwch yn gadael gyda set o dempledi personol, gan eich grymuso i ddylunio a chreu dillad wedi’u teilwra gyda ffit perffaith.
Bydd angen rhywfaint o brofiad blaenorol o ddefnyddio peiriant gwnïo a gwybodaeth sylfaenol o wnïo dillad. Mae cwblhau tymor un a dau yn fuddiol.
Yr hyn fydd ei angen arnoch:
Darperir yr holl offer gwnïo a thorri patrymau hanfodol, ond rydym yn argymell yn fawr eich bod yn berchen peiriant gwnïo fel y gallwch ymarfer eich sgiliau y tu allan i wersi.
Gwybodaeth allweddol
- Tymor un: Dechreuwyr – Dim gofynion mynediad
- Tymor dau: Canolradd – Bydd rhaid i ddysgwyr fod â gwybodaeth sylfaenol o ddefnyddio peiriant gwnïo
- Tymor tri: Uwch – Bydd rhaid i ddysgwyr fod â gwybodaeth sylfaenol o ddefnyddio peiriant gwnïo a gwybodaeth sylfaenol o greu dillad, er enghraifft profiad blaenorol o wnïo dilledyn sylfaenol.
Cynhelir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.
Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o ddarlithoedd arddangos a darlithoedd ymarferol, gyda chymorth un-i-un.
Mae’n ofynnol i ddysgwyr gwblhau llyfr gwaith o dystiolaeth i ddangos eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth a’u cymhwysedd yn ymarferol.
Defnyddir amrywiaeth o ddulliau asesu, megis:
- Arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
- Anodiadau ysgrifenedig
- Canlyniadau ymarferol
- Gwerthusiad a myfyrdod personol.
Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.
Os bydd dysgwyr yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddan nhw’n cael tystysgrif Agored.
Rhaid talu ffi stiwdio o £30 ar gyfer pob tymor o’r cwrs, i dalu am y deunyddiau a’r offer sylfaenol a ddarperir i chi. Bydd eich tiwtor yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw beth arall y bydd angen i chi ei brynu i chi’ch hun.
Gellir casglu’r holl waith ar ôl cwblhau’r llyfryn.