Skip to main content

TikTok i Ddechreuwyr

Rhan-amser
Llys Jiwbilî
Un diwrnod

Trosolwg

Newydd i TikTok? Eisiau tyfu brand ar-lein?

Y sesiwn hon yw’ch canllaw cyflym i greu cynnwys ar TikTok sy’n cysylltu. Dysgwch sut mae’r platfform yn gweithio, beth sy’n gwneud i fideos fynd yn feirol, a sut i ddefnyddio tueddiadau, hashnodau, a seiniau i ehangu’ch cynulleidfa. 

Byddwn ni’n edrych ar sut i lunio proffil, gwneud a golygu fideos, a dechrau adeiladu cynulleidfa, p’un a ydych yn hyrwyddo brand, busnes, neu’n archwilio’ch ochr greadigol. 

Does dim angen profiad, dim ond chwilfrydedd a ffôn clyfar. 

Sgìl hanfodol ar gyfer unrhyw farchnatwr digidol neu berchennog busnes.

Gwnewch gais am y cwrs hwn trwy lenwi ffurflen gais y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Dim gofynion mynediad, dim ond awydd i ddysgu mwy ac uwchsgilio o fewn eich rôl bresennol.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth a grwpiau trafod gan archwilio pynciau perthnasol i herio’ch hun. 

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i brentisiaeth neu rai o’n cyrsiau modiwlaidd eraill.

Byddai dod â gliniadur yn fuddiol ond nid yw’n ofynnol. Mae ffôn clyfar yn ahnfodol ar gyfer creu ac ymgysylltu â chynnwys TikTok yn ystod y sesiwn.