Skip to main content

Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth Lefel 4 (Prentisiaeth Uwch)

Prentisiaeth
Lefel 4
Tycoch
Dwy flynedd

Trosolwg

Ydych chi’n angerddol am wyddoniaeth ac yn awyddus i lansio’ch gyrfa mewn amgylchedd labordy deinamig, gyda’r nod o ddod yn Dechnegydd Gwyddoniaeth Cofrestredig (RSciTech)?

Mae’r llwybr prentisiaeth hwn yn ddelfrydol ar gyfer Technegwyr Labordy uchelgeisiol, gan roi’r cyfle i chi ennill profiad ymarferol amhrisiadwy yn uniongyrchol o fewn amgylchedd labordy proffesiynol. Byddwch chi’n datblygu sgiliau hanfodol, yn cyfrannu at brosiectau byd go iawn, ac yn ymgolli yn y diwydiant o’r diwrnod cyntaf, a hynny i gyd wrth adeiladu’r portffolio sydd ei angen ar gyfer statws RSciTech.

Byddwch yn cwblhau’r cymwysterau canlynol fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth: 

  • Pearson BTEC Lefel 4 Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Cemeg)

A

  • NVQ Lefel 4 mewn Gweithgareddau Labordy a Thechnegol Cysylltiedig.

Gwybodaeth allweddol

Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, Dipoloma Sylfaen Genedlaethol Lefel 3 mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, o leiaf ddau gymhwyster Safon UG (gan gynnwys pwnc Gwyddoniaeth a/neu Mathemateg).

Bydd y Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol (Cemeg) yn cwmpasu’r pynciau canlynol:

  • Hanfodion Technegau Labordy
  • Dulliau a Thechnegau Trin Data Gwyddonol
  • Cemeg Anorganig
  • Cemeg Organig
  • Rheoleiddio ac Ansawdd yn y Gwyddorau Cymhwysol
  • Cemeg Ffisegol
  • Ymchwiliad Seiliedig ar Waith
  • Cemeg Ddadansoddol.

Bydd y cymhwyster NVQ mewn Gweithgareddau Labordy a Thechnegol Cysylltiedig yn cwmpasu’r pynciau canlynol:

  • Datblygu a chynnal amgylchedd gwaith iach a diogel ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol
  • Sicrhau prosesau a gweithdrefnau ansawdd ar gyfer gweithgareddau gwyddonol neu dechnegol
  • Cynnal cysylltiadau gwaith effeithiol ar gyfer gweithgareddau technegol.

Byddwch chi hefyd yn astudio sgiliau hanfodol (Lefel 2) mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

Gall prentisiaid llwyddiannus symud ymlaen i gymwysterau pellach neu gyrsiau Addysg Uwch. Cydnabyddir y brentisiaeth, gyda datblygiad proffesiynol parhaus, i statws Technegydd Gwyddoniaeth Cofrestredig (RSciTech).

Gall swyddi technegydd labordy sy’n berthnasol fod mewn labordai mewn amrywiaeth o feysydd ymchwil (e.e. bioleg, fferyllol, deunyddiau), neu labordai profi mewn ysbytai, monitro amgylcheddol, neu sefydliadau addysgol.

Gall cwblhau’r cwrs arwain at gyflogaeth fel:

  • Technegydd Labordy e.e. ysgol, prifysgol, ysbyty, labordy diwydiannol
  • Goruchwyliwr/Rheolwr Labordy
  • Cemegydd Dadansoddol
  • Technegydd Ymchwil
  • Technegydd Labordy Clinigol
  • Technegydd Monitro Amgylcheddol.