Creu Eich Prosiect Crefft Tecstilau Eich Hun (Gwneud Clustog)
Trosolwg
Trawsnewidiwch eich cartref trwy wneud eich gorchuddion clustog eich hun!
Mae’r cwrs hwn, sy’n addas i ddechreuwyr, yn eich addysgu’r technegau clytwaith ac appliqué hanfodol i greu celf tecstilau personol ac addurniadol.
Does dim angen unrhyw brofiad gwnïo blaenorol i ymuno â’r cwrs hwn. Byddwch yn dysgu popeth o’r dechrau, gan gynnwys sut i ddefnyddio peiriannau gwnïo yn hyderus (a ddarperir yn ein gweithdai) a chynllunio ac adeiladu eich dyluniadau clustog hardd eich hun yn llwyddiannus.
Yn ddelfrydol i’r rhai sydd â diddordeb mewn prosiectau cartref DIY, crefftau ffabrig, neu sy’n chwilio am hobi newydd, gwerth chweil.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cynhelir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.
Darperir yr holl ddeunyddiau ar y dechrau, ond bydd angen i chi ddarparu eich deunyddiau eich hun i greu eich prosiect clustog.
Dysgwch sut i ddefnyddio sgiliau clytwaith neu sgiliau apliqué i wneud paneli clustog personol addurniadol a chreadigol.