Creu eich Prosiect Crefft eich hun (Sgiliau Appliqué Peiriant)
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn eich cyflwyno i dechnegau appliqué arddurniadol fel y gallwch greu eich prosiect crefft eich hun!
Mae technegau appliqué yn cynnwys addurno ffabrig sylfaen drwy ychwanegu darnai llai o ffabrig, neu ddefnyddiau eraill, at ei arwyneb i greu dyluniadau addurniadol. Mae’r technegau hyn yn gallu amrywio o bwytho syml â llaw i ddulliau peiriant mwy cymhleth, gan ganiatáu ar gyfer effeithiau gweadeddol a gweledol.
Yn ystod y 10 wythnos, byddwch yn dysgu sut i greu amrywiaeth o effeithiau gan ddefnyddio technegau appliqué gwahanol. Byddwch chi hefyd yn dysgu sut i gynllunio prosiect sy’n cyfuno rhai o’r technegau hyn i greu amrywiaeth o weadau arwyneb a phaneli celf tecstilau.
Does dim angen profiad o ddefnyddio peiriant gwnïo. Bydd pob dysgwr yn cael mynediad at beiriant gwnïo yn y gweithdy a byddwn ni’n darparu cyfarwyddiadau llawn ar sut i’w ddefnyddio gan optimeiddio eich galluoedd o’r dechrau.
Cewch gyfle i ddylunio a chreu eich prosiect crefft eich hun fel rhan o’r cwrs hwn.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cynhelir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.
Dysgwch sut i gyfuno sgiliau clytwaith â’ch technegau appliqué addurniadol newydd i greu cwiltiau a phaneli tecstilau anhygoel.