Crosio i ddechreuwyr a dysgwyr canolradd
Trosolwg
Mae crosio yn grefft amlbwrpas lle defnyddir un bachyn ac edau i greu popeth o flancedi cyfforddus a dillad chwaethus i deganau ciwt.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i grosio neu wella’ch sgiliau crosio presennol. Yn ystod y 10 wythnos, byddwch yn dysgu sut i greu’r pwythau sylfaenol a ddefnyddir mewn crosio a sut i gyfuno’r pwythau hyn i greu gwahanol siapiau, fel cylchoedd, sgwariau mam-gu a hecsagonau. Byddwch hefyd yn dysgu sut i sicrhau a gorffen panel a sut i roi paneli at ei gilydd.
Bydd y dysgwr mwy profiadol yn dysgu ystod o bwythau mwy cymhleth a sut y gellir defnyddio’r rhain i greu gwahanol weadau arwyneb, a sut i gyfuno edafedd o wahanol liwiau.
Byddwch yn dysgu am dalfyriadau, sut i ddilyn patrwm crosio, sut i greu sgwâr tensiwn a sut i baru pwysau edafedd â meintiau nodwydd. Cewch gyfle i greu set o samplau a llyfr gwaith i’w storio ynddynt a’u cadw fel atgoffa parhaol i’ch cynorthwyo i weithio’n annibynnol yn y dyfodol.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.
Cynhelir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.
Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.