Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Caleb Demery wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.
Roedd Caleb ar y llyfrau yn Academi Dinas Abertawe cyn gadael pan oedd yn nhîm dan 13. Nawr, ar ôl dau dymor yn uwch dîm Llansawel, mae’n ailymuno â’r clwb ar ôl treial llwyddiannus ddiwedd y tymor diwethaf.
Ymunodd Caleb â’r Coleg yn 2022 pan gofrestrodd ar gwrs BTEC Tystysgrif Estynedig Genedlaethol Lefel 3 mewn Chwaraeon (arbenigedd Pêl-droed) cyn symud ymlaen i flwyddyn gyntaf cwrs BA (Anrh) Chwaraeon, Hyfforddiant a Pherfformiad, a addysgir mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe.
Yn ychwanegol at ei astudiaethau, chwaraeoedd Caleb rôl allweddol yn nhîm Academi Pro:Direct y Coleg.
Yn gynharch yn yr haf, aeth Caleb i Wobrau Myfyrwyr Blynyddol y Coleg yn Stadiwm Swansea.com, lle cipiodd dlws Cyflawniad Chwaraeon Rhagorol y Flwyddyn (a nodddwyd gan South Wales Transport) am ei lwyddiannau hynod ar y cae ac oddi arno.
Dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Andrew Stokes:
“Yn 19 oed, mae Caleb wedi arddangos talent a gwydnwch eithriadol ym mhêl-droed Cymru.
“Roedd ei gyfraniadau i’r academi bêl-droed yn y Coleg yr un mor drawiadol, Fel y gôl-sgoriwr gorau, chwaraeoedd rôl allweddol wrth arwain y tîm i’w deitl Cynghrair Genedlaethol cyntaf erioed. Fe wnaeth ei berfformiadau anhygoel barhau wrth i’r tîm gyrraedd Rownd Derfynol Pencampwyr Cenedlaethol nodedig ym mis Mai yn Accrington Stanley, lle cafodd ei enwi yn Chwaraewr y Gêm, sy’n dyst i’w ragoriaeth a’i benderfyniad cyson.
“Y tu hwnt i’w fedrusrwydd technegol, fe wnaeth Caleb lwyddo i gydbwyso ei yrfa chwaraeon â’i addysg, gan gwblhau ei flwyddyn gyntaf ar y rhaglen BA Chwaraeon newydd. Mae ei ymrwymiad i’w astudiaethau ac athletau yn dweud cyfrolau am ei ddisgyblaeth a’i uchelgais.
Ar ôl blwyddyn mor anhygoel, nid yn unig mae Caleb wedi profi ei fod yn bêl-droediwr o’r radd flaenaf ond mae hefyd yn batrwm ymddwyn i athletwyr ifanc ym mhob man. Rydyn ni’n dymuno’r gorau iddo yn Ninas Abertawe.”
Mae pawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn falch dros ben o lwyddiant Caleb ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ei gefnogi yn ei yrfa yn y dyfodol.
Darllenwch ragor am lwybr Caleb i Ddinas Abertawe ar eu gwefan.