
Mae Dawne Meynell-Western, myfyrwraig a astudiodd gwrs Tai yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cipio teitl Myfyriwr y Flwyddyn 2025 y Sefydliad Tai Siartredig. Mae’r wobr genedlaethol yn cydnabod rhai o ddysgwyr gorau’r DU sy’n astudio mewn canolfannau CIH.
Dyma'r tro cyntaf i Sefydliad Dyfarnu CIH gynnal y gystadleuaeth. Bwriad y digwyddiad yw cydnabod myfyrwyr sydd nid yn unig wedi rhagori yn academaidd ond sydd hefyd wedi goresgyn heriau personol neu wedi gwneud yn dda iawn yn eu gweithle, canolfan astudio neu gymuned.
Astudiodd Dawne Dystysgrif Lefel 3 CIH mewn Tai cyn symud ymlaen i Lefel 4, drwy Hyfforddiant CGA, cangen hyfforddi cyflogwyr y Coleg. Ond yr hyn sy'n gwneud ei chyflawniad yn wirioneddol wych yw’r daith a gymerodd i gyrraedd yno.
Gan weithio mewn rôl rheng flaen i Gyngor Rhondda Cynon Taf o fewn y sector digartrefedd heb amser i ymgymryd ag astudiaethau academaidd, cymerodd Dawne gyfle i ddefnyddio ei gwyliau blynyddol i fynychu sesiynau a chwblhau aseiniadau. Ar ben hyn oll roedd hi'n gwella ar ôl strôc ac yn dysgu sut i reoli dyslecsia. Roedd y ffactorau hyn gwneud astudio'n anhygoel o anodd.
Ond ni roddodd Dawne y ffidil yn y to. Treuliodd oriau o'i hamser yn adolygu ei nodiadau'n ofalus, yn ymchwilio ac fe wnaeth rhoi o’i gorau i gwblhau ei gwaith. Byddai llawer o bobl wedi rhoi’r gorau, ond parhaodd Dawne â’i hastudiaethau yn llawn cryfder, penderfyniad a dyfalbarhad anhygoel.
Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Lefel 3 symudodd yn syth i Lefel 4 a defnyddiodd ei sgiliau newydd a'i hyder i wneud cais am rôl newydd, ac mae bellach yn gweithio fel Cynghorydd Trais Domestig Iechyd Annibynnol Arbenigol i Gyngor Dinas Casnewydd.
Hefyd, yn ddiweddar, enwyd Dawne yn Fyfyriwr Hyfforddi CGA y Flwyddyn gan Elaine McCallion yng ngwobrau blynyddol y Coleg.
Dyma gydnabyddiaeth haeddiannol arall o'i thaith.
Fe wnaeth y cymorth a dderbyniodd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe arwain at newidiadau gwerthfawr yn y ffordd y mae'r Coleg yn cefnogi myfyrwyr ag anghenion ychwanegol yn y gweithle. Fe wnaeth ei thiwtor, Naomi Wilkins, weithi’n agos gyda Thîm Llythrennedd Digidol y Coleg i addasu deunyddiau dysgu a dadansoddi tasgau cymhleth; mae'r strategaethau hyn bellach yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol a hygyrch ar gyfer myfyrwyr tai'r dyfodol.
Dywedodd Dawne:
‘Roedd Naomi yn fwy na thiwtor yn unig, fe wnaeth fy nghefnogi trwy heriau personol a cholled drasig ac fe helpodd fi i feithrin sgiliau, hyder a hunangred i’m galluogi i gwblhau’r cymhwyster Lefel 3 yn llwyddiannus, dechrau fy nhaith Lefel 4 a gwneud cais am gyfleoedd cyflogaeth newydd.
Mae’n wybodus iawn ac mae'n annog ei myfyrwyr i archwilio ffyrdd newydd a gwahanol o ymchwilio a chwblhau tasgau heb wneud iddynt deimlo'n annigonol neu'n addysgedig. Mae hi’n eu galluogi a'u hannog i ymdrechu i gyflawni'r hyn na fyddai llawer wedi breuddwydio o gyflawni."
Ychwanegodd: "Er fy mod wedi fy synnu o dderbyn y wobr hon, mae wedi fy helpu i fyfyrio'n bositif ar yr heriau rydw i wedi'u goresgyn wrth astudio. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad o’r tiwtoriaid a’r addysgwyr anhygoel; diolch o galon iddyn nhw!"
Dywedodd Paul Kift, Pennaeth Dros Dro Coleg Gŵyr Abertawe:
"Mae stori Dawne yn ysbrydoledig iawn. Mae ei gwydnwch, ei phositifrwydd a'i dyfalbarhad wedi bod yn rhagorol. Rydw i mor falch o'r hyn y mae hi wedi'i gyflawni ac rydw i hefyd am ddiolch i'r staff ymroddedig a'i cefnogodd bob cam o'r ffordd."
Ychwanegodd Sue Bailey, Rheolwr Ymgysylltu CIH:
"Rydym wedi ein plesio cymaint gan ymdrech ac ymroddiad yr enwebeion eleni. Mae llawer ohonynt wedi mynd y tu hwnt i ofynion y cwrs wrth ddelio ag amgylchiadau anodd. Llongyfarchiadau mawr i Dawne a phawb a enwebwyd. Mae'r gwobrau hyn yn adlewyrchiad o'r dalent a’r angerdd sy’n cael ei arddangos o fewn y sector tai.’’
O ganlyniad i'r wobr hon, mae Dawne bellach wedi cael ei henwebu gan Sefydliad Dyfarnu CIH ar gyfer gwobr Dysgwr y Flwyddyn Ffederasiwn y Cyrff Dyfarnu (FAB), cydnabyddiaeth wych o'i chyflawniadau anhygoel.