Yn ddiweddar, cynhaliodd myfyrwyr celf talentog Safon Uwch arddangosfa o’u gwaith ar Gampws Gorseinon.
Roedd yn cynnwys myfyrwyr celfyddyd gain, ffotograffiaeth, tecstilau a dylunio graffig (cyfathrebu).
Roedd yr achlysur hefyd yn gyfle i wobrwyo’r myfyrwyr gorau o bob maes.
Llongyfarchiadau arbennig i Amy Weekes, Megan Sanger, Zoe Dougan, Sophie Hawkins, Emily Hines, Maksym Hrytsenko, Anwen Rodaway, Lily Evans-Morgan, Evie Brown, Nell Coghlan, Elsa Williams, Jack Hopkins, Katie Richards a Hannah Leach a phob lwc yn eich cam nesaf yn y Coleg, prifysgol a thu hwnt.