Skip to main content
Taith students

Mae cyllid Taith yn cynnig cyfleoedd byd-eang cyffrous

Mae Taith yn rhaglen gyfnewid dysgu ryngwladol y mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn falch o gymryd rhan ynddi ers ei lansiad yn 2022. Mae’r fenter hon wedi agor cyfleoedd cyffrous byd-eang i fyfyrwyr a staff, gan roi modd iddynt deithio i wledydd fel Portiwgal, Sbaen, Canada, yr Iseldiroedd, Gwlad Thai, Seland Newydd, a mwy.

I nifer o fyfyrwyr, yn enwedig y rhai na fyddai wedi cael cyfle i deithio dramor fel arall, mae Taith wedi newid eu bywydau. Mae’n cynnig cyfle i brofi diwylliannau amrywiol, amgylcheddau addysgol, ac arferion diwydiant – gan gyfoethogi eu dysgu yn fawr yn y maes astudio o’u dewis. Nid yn unig mae’r profiadau rhyngwladol hyn yn rhoi hwb i ddatblygiad academaidd a phroffesiynol y myfyrwyr, ond maen nhw hefyd yn eu helpu i fagu hyder, annibyniaeth, ac ymwybyddiaeth o’r byd.

Mae aelodau staff hefyd yn elwa ar gyfleoedd datblygu proffesiynol trwy gydweithredu â phartneriaid rhyngwladol, gan helpu i wella dysgu ac addysgu yn y Coleg.

Mae rhaglenni fel Taith yn hanfodol ar gyfer ehangu gorwelion a rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer gweithlu byd-eang. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymrwymedig i barhau â’i ymwneud â rhaglenni cyfnewid dysgu rhyngwladol ac yn falch o’r effaith y mae Taith wedi ei chael ar gymuned y Coleg.