Sgiliau ar gyfer y Gweithle
Ydych chi am roi hwb i’ch sgiliau, newid gyrfa neu helpu eich tîm i gwblhau hyfforddiant sy’n gwneud gwahaniaeth?
Trwy gydweithio â cholegau ledled De-orllewin Cymru, colegau blaenllaw eraill a Phartneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru, rydym yn cynnig cyfres o gyrsiau am ddim ac â chymhorthdal. Bwriad y cyrsiau yw rhoi sgiliau cyfredol i unigolion fel y gallant ddiwallu anghenion lleol a ffynnu yn eu gweithle.

Pa gyrsiau sydd ar gael?
Rydym yn cynnig cyfleoedd Lefel 3-5 sy’n cyd-fynd â rhai o sectorau mwyaf cyffrous y rhanbarth:
⚡ Ynni ac Ynni Adnewyddadwy
🏭 Gweithgynhyrchu Uwch a Chlyfar.
Mae’r cyrsiau wedi'u cynllunio i ddiwallu dyletswyddau swyddi go iawn - ac maent yn ddelfrydol ar gyfer uwchsgilio, ailhyfforddi neu hybu datblygiad proffesiynol eich tîm.
Beth am gymryd rhan?
✅ Sicrhau cymhwyster cydnabyddedig
✅ Gwella rhagolygon cyflogaeth
✅ Sgiliau newydd sy’n berthnasol i’ch diwydiant
✅ Hyblygrwydd addysgol i gyd-fynd â'ch bywyd
✅ Llawer o gyrsiau am ddim ac â chymorthdaliadau
P'un a ydych yn unigolyn sydd am ymuno â'r farchnad swyddi, symud ymlaen yn eich rôl bresennol, archwilio gyrfa newydd, neu yn gyflogwr sydd eisiau uwchsgilio'ch tîm ac addasu i newidiadau'r diwydiant, dyma gyfle i gael mynediad at gymwysterau cydnabyddedig a sgiliau cyfredol.
Pwy all wneud cais?
Oedolion sydd am newd gyrfa neu ddychwelyd i gyflogaeth
Gweithwyr sydd eisiau uwchsgilio
Cyflogwyr sydd am hyfforddi eu gweithlu.
Mae’r prosiect hwn yn addas ar gyfer unigolion a busnesau ar draws De Cymru.
Sgiliau ar gyfer y Gweithlu
Cyflwynir y fenter hon ar y cyd â:
Gyda'n gilydd, rydym am wella lefelau sgiliau De-orllewin Cymru - gan helpu unigolion a chyflogwyr i fynd i’r afael â economaidd.
Cyrsiau Sgiliau ar gyfer y Gweithlu
Archwiliwch y cyrsiau sydd ar gael isod a chofrestrwch diddordeb heddiw. Mae lleoedd yn gyfyngedig - peidiwch â cholli'r cyfle i fuddsoddi yn eich dyfodol neu'ch gweithlu.