Skip to main content

Adeiladu’ch Brand gyda SEO, Ymchwil Allweddeiriau a Chynnwys

Rhan-amser
Llys Jiwbilî
Un diwrnod

Trosolwg

Eisiau ymddangos yn uwch ar beiriannau chwilio a denu mwy o gwsmeriaid?

Dysgwch sut i hybu gwelededd eich brand gydag SEO mwy craff, ymchwil allweddeiriau wedi'i thargedu, a chynnwys sy’n cysylltu. Mae’r sesiwn hon yn astudio sut mae peiriannau chwilio fel Google a Bing yn gweithio, sut i ddod o hyd i’r allweddeiriau cywir, a sut i greu cynnwys sy’n perfformio.

Byddwch hefyd yn dysgu tips a sgiliau i godi’ch brand uwchlaw’r gystadleuaeth a dysgu sut i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn fwy effeithiol i gefnogi’ch twf.

Yn y sesiwn hon sy’n canolbwyntio ar SEO, byddwch chi’n dysgu sut i:

  • Deall sut mae peiriannau chwilio yn fynd trwy gynnwys ac yn ei raddio
  • Darganfod yr allweddeiriau gorau ar gyfer eich cynulleidfa a’ch arbenigedd
  • Ysgrifennu cynnwys sy’n ymddangos ar beiriannau chwilio ac yn denu cynulleidfa
  • Defnyddio offer SEO taledig ac am ddim i gael gwybodaeth a gwella perfformiad
  • Manteisio ar offer deallusrwydd artiffisial i symleiddio tasgau creu cynnwys a SEO
  • Rhagori ar eich cystadleuwyr a chynyddu gwelededd hirdymor.

Pwy ddylai ddod:

Entrepreneuriaid, perchnogion busnesau bach, marchnatwyr digidol, crewyr cynnwys, ac unrhyw un sydd eisiau adeiladu brand neu roi hwb i draffig gwefan.

P'un a ydych yn adeiladu o’r dechrau neu’n edrych i ddatblygu, byddwch chi'n gadael gydag offer ymarferol i dyfu eich brand ar-lein.

Gwnewch gais am y cwrs hwn trwy lenwi ffurflen gais y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Gwybodaeth allweddol

Dim gofynion mynediad, dim ond awydd i ddysgu mwy ac uwchsgilio o fewn eich rôl bresennol.

Addysgir y cwrs trwy gyfuniad o sesiynau wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth a grwpiau trafod gan archwilio pynciau perthnasol i herio’ch hun.

Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, gallech chi symud ymlaen i brentisiaeth neu rai o’n cyrsiau modiwlaidd eraill.

Byddai dod â gliniadur yn fuddiol ond nid yw’n ofynnol.