Mae’r rhaglen gymdeithasol Ryngwladol wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gyda chyfranogiad cryf gan fyfyrwyr UG ac U2 ar draws amrywiaeth o weithgareddau diddorol wedi’u trefnu gan y tîm Rhyngwladol.
Yn rhedeg o fis Medi i fis Mai, mae’r rhaglen wedi cynnwys amrywiaeth o wibdeithiau diwylliannol a hamdden fel taith ymgyfarwyddo â Dinas Abertawe, Rhosili, Caerfaddon, digwyddiadau tymhorol fel Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, rhoi anrhegion Nadolig a dathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, yn ogystal â’n taith i Rydychen ym mis Mawrth. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at ein gwibdaith derfynol i Heatherton.
Hoffen ni gydnabod cyfraniadau ein Cyfeillion Rhyngwladol hefyd, y mae eu cymorth a’u cyfranogiad wedi helpu i feithrin amgylchedd croesawgar a chydweithredol ar gyfer ein myfyrwyr.
Bydd y flwyddyn yn dod i ben gyda Seremoni Graddio Dosbarth 2025 fydd yn cael ei chynnal ym Mhlas Sgeti yn ystod hanner tymor.
Dyma rai o uchafbwyntiau’r gwibdeithiau eleni – rydyn ni’n edrych ymlaen at hyd yn oed fwy o weithgareddau cyffrous yn y flwyddyn academaidd newydd.