Skip to main content

Gwnïo Sashiko

Rhan-amser
Llwyn y Bryn
10 wythnos

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i’ch rhoi ar ben ffordd gyda thechnegau brodwaith traddodiadol ac mae’n cwmpasu amrywiaeth o bwythau a sut i’w defnyddio:

  • Pwyth conyn
  • Pwyth olwyn wedi’i gwehyddu
  • Pwyth satin
  • Pwyth ôl
  • Pwyth blanced
  • Pwyth twll botwm
  • A mwy!

Byddwn ni hefyd yn archwilio’r deunyddiau a’r offer a ddefnyddir i greu dyluniadau brodwaith hardd.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cyfuno dysgu pwythau brodwaith traddodiadol â chysyniad pwytho addurniadol o’r enw sashiko, y dechneg drwsio a brodio addurniadol draddodiadol o Siapan a nodweddir gan batrymau geometrig nodedig a phwythau rhedeg syml.

Byddwch hefyd yn dysgu trwsio boro, y dechneg drwsio draddodiadol o Siapan sy’n canolbwyntio ar atgyweirio ac atgyfnerthu tecstilau, a nodweddir gan esthetig haenog, clytiog a’r defnydd o bwythau gweladwy.

Fel rhan o’r cwrs hwn, cewch gyfle i ddysgu sut i gynllunio a gweithredu eich prosiect brodwaith eich hun a fydd yn unigryw i chi.

Gwybodaeth allweddol

Does dim unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn. 

Does dim angen profiad blaenorol gan fod yr holl dechnegau’n cael eu harddangos yn llawn o’r cychwyn cyntaf.

Addysgir dosbarthiadau yn ein stiwdio gwnïo a dylunio fach, gyfeillgar ar Gampws Llwyn y Bryn, Uplands. Gyda mynediad at amrywiaeth o offer gwnïo, byddwch yn dysgu mewn amgylchedd hamddenol ond ysbrydoledig.

Darperir yr holl ddeunyddiau i ddechrau, ond disgwylir i chi ddarparu eich deunyddiau a’ch offer eich hun i gynhyrchu eich prosiect brodwaith.

Dysgwch sut i gyfuno sgiliau brodwaith â sgiliau gwneud clytwaith, appliqué neu glustogau fel y gallwch ddylunio dodrefn meddal unigryw i gyd-fynd â’ch ystafelloedd mewnol neu allanol.

Embroidery with Sashiko
Cod y cwrs: VB785 ELB
16/09/2025
Llwyn y Bryn
10 weeks
Tue
5.30 - 8.30pm
£70