Skip to main content
Addysg Bellach yng Nghymru: sector sy’n trawsnewid bywydau

Addysg Bellach yng Nghymru: sector sy’n trawsnewid bywydau

Gan Mark Jones MBE, Prif Swyddog Gweithredol, Coleg Gŵyr Abertawe 

Mae’r wythnos hon yn nodi diwedd taith 20 mlynedd i mi – dau ddegawd o wasanaethu fel Prif Weithredwr / Pennaeth mewn dau goleg Addysg Bellach (AB) gwahanol, ond yr un mor ddeinamig, yn ne Cymru. Wrth i mi gamu yn ôl, rwy’n ddiolchgar iawn ac yn parhau i gredu yng ngrym a photensial colegau addysg bellach.

Yr hyn sy’n fy nharo fwyaf yw pa mor bell y mae’r sector Colegau wedi dod a’r effaith y mae hyn yn ei chael bob dydd.

AB heddiw: y gofod mwyaf amrywiol mewn addysg

Pan fyddwn yn sôn am golegau addysg bellach, rydym yn sôn am rai o’r sefydliadau addysgol mwyaf amrywiol a chynhwysol yn y wlad. Yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, mae ein myfyrwyr yn cynnwys dysgwyr 16-18 oed sy’n astudio cyrsiau Safon Uwch neu alwedigaethol, disgyblion ysgol sy’n ychwanegu at eu haddysg, oedolion sy’n dychwelyd i ddysgu sgiliau newydd neu uwchsgilio yn eu swydd, a myfyrwyr addysg uwch sy’n datblygu eu cymwysterau yn lleol. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr ar draws ystod eang o sectorau i ddarparu rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel sy’n cefnogi datblygiad y gweithlu ac sy’n mynd i’r afael ag anghenion sgiliau lleol a chenedlaethol.

Mae ein gwaith bellach yn ymestyn yn rhyngwladol hefyd, gyda rhaglenni Safon Uwch fydd yn cael eu haddysgu yn fuan yn Ysgol Ryngwladol Huamei yn Guangzhou, Tsieina, ac i’r sector cyfiawnder, gydag addysg yn cael ei darparu yng Ngharchar EM y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae’r ehangder hwn yn gryfder, ond gall fod yn her hefyd. Nid yw’r rhai y tu allan i’r sector bob amser yn deall ystod, graddfa, a gwerth cymdeithasol llawn AB, er y teimlir ei effaith mewn sawl rhan o’n cymunedau.

Llywio cymhlethdod â phwrpas

Mae colegau yn gweithredu mewn amgylcheddau cymhleth, sy’n gymysgedd o’r sectorau cyhoeddus a phreifat — wrth lywio modelau ariannu, bodloni gofynion rheoleiddio, ymgysylltu â rhwydwaith eang o randdeiliaid, a chystadlu i ddenu myfyrwyr. Mae’r cyfan yn rhoi ffocws canolog ar roi dysgwyr wrth wraidd popeth a wnânt.

Er gwaethaf hyn, neu efallai o’i herwydd, colegau yw rhai o’r sefydliadau mwyaf arloesol a deinamig yn y system addysg. Mae ein meddylfryd wedi’i wreiddio mewn ymrwymiad i helpu myfyrwyr i lwyddo. Fel y dywedodd un o gyn Brif Weithredwyr ColegauCymru, mae gan AB agwedd gallu gwneud.

Cydymdrech ar gyfer cydeffaith

Yng Nghymru, mae ein sector yn elwa ar ymdeimlad cryf o gydlyniad a phwrpas cyffredin, gan gydweithio yn aml i ddatrys yr heriau mawr a wynebwn.

Rwy’n hynod ddiolchgar i’m cydweithwyr ar draws y sector AB yng Nghymru, Lloegr a thramor, ac i ColegauCymru, am eu cymorth wrth ddod â ni ynghyd er mwyn symud ymlaen fel sector.

Ysbrydoli dyfodol uchelgeisiol

Colegau AB yw’r goleuadau llachar yn system addysg Cymru – ni yw’r sbardun i nifer o fyfyrwyr sy’n symud ymlaen i’r prifysgolion gorau. Eleni, mae 14 o ddysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynigion gan Rydgrawnt. Rydym hefyd yn ysgogiad allweddol i ddatblygu sgiliau, paratoi’r gweithlu a symudedd cymdeithasol.

Rydym yn chwarae rôl bwysig wrth leihau nifer y bobl ifanc sydd yn NEET (Nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant), gan roi’r hyder, y cymwysterau, a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt er mwyn llwyddo. Yn wir, heb os nac oni bai, er mwyn i Gymru fod y pwerdy economaidd rydym i gyd am iddi fod, mae’r sector AB yn chwarae rhan ganolog yn y daith honno.

Nid yw’r llwyddiant hwn ond yn bosibl diolch i ymdrechion timau ymroddedig ac ymrwymedig — o’n darlithwyr a’n staff cymorth rhagorol i’n partneriaid a’n rhanddeiliaid lu. Mae’r rhain yn cynnwys ysgolion, prifysgolion, sefydliadau cymunedol, llywodraethau lleol a chenedlaethol, Medr, a chyrff cymorth allweddol megis Estyn, Cymwysterau Cymru, a llawer eraill. Diolch o galon i bob un ohonynt am y rolau hollbwysig maen nhw’n eu chwarae yn llwyddiant ein colegau.

Fy neges olaf i’r myfyrwyr

I’r degau o filoedd o fyfyrwyr rwyf wedi cael y fraint o’u cefnogi ar draws y ddau goleg, diolch yn fawr. Chi yw’r rheswm pam rydym yn bodoli, a’r cymhelliad y tu ôl i bob penderfyniad a wnawn.

Daliwch ati i weithio’n galed. Daliwch ati i anelu’n uchel. Mae’ch coleg lleol wrth law i’ch helpu i wireddu’ch uchelgeisiau a dangos i chi, gyda’r cymorth iawn, y gallwch fynd yn bellach nag oeddech chi erioed wedi’i ddychmygu.